Leighton Andrews
Gallai diwygio llywodraeth leol yng Nghymru arwain at  arbedion o hyd at £650 miliwn dros ddeng mlynedd, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae Bil Drafft Llywodraeth Leol (Cymru), sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, yn nodi sut y mae modd gwneud arbedion sylweddol er mwyn amddiffyn gwasanaethau’r rheng flaen.

O dan y Bil, bydd y 22 o gynghorau presennol yn cael eu huno i 8 neu 9, gan fod yn “gatalydd” ar gyfer diwygio’r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu i ddinasyddion.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y byddai’r uno yn talu amdano’i hun cyn pen dwy neu dair blynedd, ac mae’r £650 miliwn a fyddai’n cael ei arbed yn ystyried y costau cychwynnol hyn.

Byddai hefyd modd sicrhau arbedion ychwanegol trwy werthu asedau sydd dros ben, meddai’r Llywodraeth.

Yn ôl Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus byddai hyn yn golygu “mwy o arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus y rheng flaen, rhagor o arian i fuddsoddi mewn cymunedau a rhagor o arian i gefnogi ffyniant economaidd lleol.”

Mae Bil Drafft heddiw yn ddechrau proses ymgynghori ffurfiol ynghylch y cynigion i uno awdurdodau lleol a gyhoeddwyd ym mis Mehefin.

Mae’n gwahodd sylwadau am y strwythur arfaethedig, gan gynnwys a ddylid cael dau neu dri chyngor i wasanaethu’r Gogledd. Daw’r ymgynghoriad i ben ar 15 Chwefror 2016.

‘Gweledigaeth’

Dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: “Ein gweledigaeth ar gyfer Llywodraeth Leol yw Cynghorau gweithredol sy’n gweithio i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus modern, hygyrch o safon uchel gyda’u cymunedau lleol.

“Mae’r Bil Drafft hwn yn nodi rhaglen ddiwygio i ddiogelu dyfodol Llywodraeth Leol yng Nghymru. Rydym am weld Cynghorau sy’n llewyrchus, cryf, hyblyg, agored a thryloyw. Cynghorau sydd â gweledigaeth, sy’n gweithredu o dan arweinyddiaeth wych a brwdfrydedd, ac sy’n gweithio’n effeithiol gyda gweithlu’r gwasanaeth cyhoeddus a’u cymunedau i wella gwasanaethau, bywydau a lleoedd.”

‘Arbedion sylweddol’

 

Ychwanegodd Leighton Andrews: “Mae cyfle go iawn yma i Lywodraeth Leol wneud arbedion sylweddol i drethdalwyr ac os bydd Cynghorau’n cydweithio, yn cynllunio’n well ac yn cynnwys eu staff, mae cyfle i arbed mwy na’r £650 miliwn rydym wedi’i nodi.

“Mae hyn yn golygu mwy o arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus y rheng flaen, rhagor o arian i fuddsoddi mewn cymunedau a rhagor o arian i gefnogi ffyniant economaidd lleol.”

Y bwriad yw cyflwyno’r Bil i’r Cynulliad yn ystod hydref 2016, ac mae’n cael ei gyhoeddi ar ffurf drafft er mwyn annog pobl i fynegi  barn  ar y cynigion rhwng nawr a mis Chwefror y flwyddyn nesaf.

‘Addewidion gwag’

 

Ond mae llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar lywodraeth leol wedi dweud mai “addewidion gwag” yw honiad Llywodraeth Cymru y bydd arbedion sylweddol drwy uno cynghorau.

Dywedodd Janet Finch-Saunders AC: “Rhagor o addewidion gwag gan weinidog Llafur sy’n ymddangos ei fod wedi tynnu’r ffigurau o’r awyr.

“Fe glywsom ni rethreg debyg cyn i Lafur ad-drefnu’r GIG a arweiniodd at ddiffygion enfawr a phwysau digynsail ar staff rheng flaen.

“Mae’n iawn bod cymunedau’n holi os allen nhw ymddiried yn y ffigurau hyn.

“Fe fyddai’r Ceidwadwyr yn rhoi grym yn ôl yn nwylo lleol, gan sicrhau bod refferendwm yn cael ei gynnal cyn uno cynghorau.”

Ychwanegodd: “Lle mae cynghorau’n gallu gweithio gyda’i gilydd, rhannu gwasanaethau ac arbed arian, yna mae ganddyn nhw gefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig –  ond dim ond gyda chaniatâd y bobl leol.”