Y Belfast Telegraph yn cyhoeddi'r newyddion am ymddiswyddiad Peter Robinson
Mae Prif Weinidog Gogledd Iwerddon wedi dweud y bydd yn ymddiswyddo o fewn wythnosau, cyn yr etholiadau nesa’.

Fe ddaeth datganiad Peter Robinson yn union cyn cynhadledd flynyddol ei blaid, unoliaethwyr democrataidd y DUP – fe fydd yn rhoi’r gorau i fod yn arweinydd y blaid hefyd a fydd e ddim yn sefyll yn etholiadau’r Cynulliad.

Fe ddywedodd wrth bapur newydd y Belfast Telegraph ei fod wedi cyflawni ei brif amcanion, gan gynnwys sefydlogi’r Cynulliad yn Stormont.

Tros yr haf, roedd hi’n ymddangos y gallai’r sefydliad fod mewn peryg oherwydd ffrae rhwng yr Unolaethwyr a Sinn Fein tros weithgareddau honedig milwrol yr IRA, ond fe gafwyd cytundeb yn y diwedd.

Straen

Roedd Peter Robinson, sy’n 66 oed, yn gwadu ei fod yn ymddeol am resymau iechyd, ere i fod wedi cael trawiad ar y galon ym mis Mai.

Ond roedd yn cydnabod bod swydd Prif Weinidog yn achosi straen a fod diffyg cwsg hefyd yn broblem.

Roedd wedi cynnig ymddiswyddo ddwywaith o’r blaen, meddai – unwaith ar ôl i’r blaid ennill ei nifer mwya’ erioed o seddi yn y Cynulliad yn 2011 ac ar ôl etholiadau San Steffan eleni.

Gwahanu dwy swydd

Fe roddodd awgrym cry’ y bydd swydd arweinydd y DUP a swydd Prif Weinidog yn cael eu gwahanu yn y dyfodol.

Y disgwyl wedyn yw y byddai Arlene Foster yn dod yn Brif Weinidog benywaidd cynta’ Gogledd Iwerddon.