Francois Hollande, Arlywydd Ffrainc
Mae Ffrainc wedi gofyn am gymorth milwrol a diogelwch gan wledydd yr Undeb Ewropeaidd yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd (IS) ddyddiau’n unig ar ôl yr ymosodiadau ym Mharis pan gafodd o leiaf 129 o bobl eu lladd.

Daw’r alwad wrth i’r wlad gynnal ymosodiadau o’r awyr ar safleoedd IS yn Syria.

Dywedodd gweinidog amddiffyn Ffrainc Jean-Yves Le Drian y gallai ei phartneriaid yn yr UE helpu “un ai drwy gymryd rhan yn ymosodiadau Ffrainc yn Syria neu Irac, neu drwy leddfu’r pwysau neu roi cymorth i Ffrainc mewn gweithredoedd eraill.”

Roedd y cyrchoedd awyr diweddaraf gan Ffrainc yn Raqqa, Syria – un o gadarnleoedd IS – wedi dinistrio safle milwrol a gwersyll hyfforddi, meddai llefarydd milwrol Ffrainc.

Ddydd Llun, roedd yr Arlywydd Francois Hollande wedi rhoi addewid i ffurfio clymblaid er mwyn trechu IS ar dir Ffrainc a thramor.

Mae IS wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiadau nos Wener ddiwethaf. Dywedodd Hollande bod y rhai gafodd eu lladd yn dod o 19 o wledydd gwahanol a bod yn rhaid i’r gymuned ryngwladol gyd-weithio er mwyn trechu IS yn Syria.

Mae Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau John Kerry wedi teithio i Baris ar gyfer trafodaethau gyda Francois Hollande a’r Gweinidog Tramor Laurent Fabius.

Dywedodd John Kerry bod yn rhaid “dwysau’r ymdrechion” yn erbyn IS “yn y safleoedd lle maen nhw’n cynllwynio’r ymosodiadau yma ac ar y ffiniau.”

Yn y cyfamser daeth i’r amlwg bod yr awdurdodau yn Ffrainc yn chwilio am ail ddyn oedd wedi bod yn rhan o’r ymosodiadau ym Mharis. Nid yw’r awdurdodau wedi ei adnabod hyd yn hyn. Maen nhw eisoes yn chwilio am Salah Abdeslam a oedd wedi dianc ar ol yr ymosodiadau.