Holyrood
Mae’r SNP wedi cyflwyno gwelliant i Fil yr Alban er mwyn i Holyrood gael penderfynu pryd i gynnal refferendwm annibyniaeth.

Mae cyn-Brif Weinidog yr Alban, Alex Salmond ac arweinydd y blaid yn San Steffan, Angus Robertson ymhlith y chwech aelod seneddol sy’n cynnig y gwelliant.

Mae’r Bil yn seiliedig ar argymhellion Comisiwn Smith a gafodd ei sefydlu’n dilyn canlyniad y refferendwm.

Bydd dadl yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Llun.

Cafodd y refferendwm annibyniaeth cyntaf ei gynnal y llynedd yn dilyn sefydlu Cytundeb Caeredin, oedd yn rhoi’r hawl i’r Alban alw refferendwm cyn diwedd 2014.

Ond byddai refferendwm pellach yn ddibynnol ar ddymuniad pobol yr Alban i’w gynnal.

Mae Prif Weinidog presennol yr Alban, Nicola Sturgeon wedi rhybuddio y byddai ail refferendwm yn anochel pe na bai’r Alban yn cael dweud eu dweud yn y trafodaethau tros aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae mwy nag 80 o welliannau i Fil yr Alban wedi cael eu cyflwyno.