Mae’r unig aelod seneddol sydd gan y Blaid Lafur ar ôl yn yr Alban wedi mynnu y gallai’r Blaid yno dorri ei chwys ei hun o ran ei safbwynt tuag at adnewyddu arfau niwcliar.

Dywedodd llefarydd y Blaid ar yr Alban, Ian Murray wrth Radio Scotland y byddai cynlluniau i wneud y Blaid Lafur yn yr Alban yn fwy annibynnol yn golygu y byddai ganddi, safbwynt wahanol ar unrhyw fater.”

Ond er hynny, fe ddywedodd y byddai’r blaid yn ynrwymo i faniffesto Prydeinig ar gyfer etholiadau San Steffan yn 2020.

Fe fydd cynhadledd flynyddol y Blaid Lafur yn yr Alban yn penderfynu heddiw os ydynt am drafod adnewyddu llongau tanfor Trident ddydd Sul, sydd wedi’u lleoli ym Mhorthladd Faslane ar yr afon Clyd.

Mae Ian Murray wedi nodi yn gyhoeddus ei wrthwynebiad i adnewyddu Trident yn y gorffennol.

“Chwerthinllyd”

Ond mae aelod Senedd Ewrop yr SNP wedi disgrifio safbwynt y Blaid Lafur, fel un chwerthinllyd. “Mae Ian Murray yn awr yn dweud fod y Blaid Lafur yn yr Alban am drafod y mater y penwythnos hwn neu ddim, mae ei safbwynt mor aneglur ac erioed.”

“Ac os ydyn nhw’n parhau mor ranedig ar faterion allweddol fel Trident, dydyn nhw yn ddigon abl i fod yn wrthblaid yn Holyrood nac yn San Steffan.”