Mae ymchwil yn awgrymu bod refferendwm annibyniaeth yr Alban llynedd wedi cael effaith ar bobol ifanc, gyda mwy o bobol yn eu harddegau bellach yn dangos diddordeb mewn gwleidyddiaeth.

Ond roedd y diddordeb hwnnw wedi’i rannu’n anghyson, yn ôl academyddion o Brifysgol Robert Gordon yn Aberdeen, gyda diddordeb pobol 16 ac 17 oed hefyd yn pylu am nad oedden nhw wedi gallu pleidleisio yn yr etholiad cyffredinol eleni.

Y refferendwm llynedd oedd y tro cyntaf i etholwyr mor ifanc gael y cyfle i bleidleisio, a bellach mae’r rheolau wedi newid er mwyn caniatáu i bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio yn etholiadau’r Alban.

Yn y Mesur Drafft Cymru diweddar fe gynigiodd llywodraeth San Steffan bwerau dros etholiadau Cymru i’r Cynulliad, a fyddai’n golygu y gallai gwleidyddion Bae Caerdydd gyflwyno rheolau tebyg yn y dyfodol.

Cenhedlaeth Twitter


Yn ôl amcangyfrifon fe bleidleisiodd 75% o bobl 16 ac 17 oed yn refferendwm yr Alban, ac yn ôl yr ymchwil roedd yr ymgyrch wedi codi diddordeb ymysg pobl oedd “ddim â diddordeb mewn gwleidyddiaeth cyn hynny”.

“Fe arweiniodd hyn at fwy o weithgarwch gwleidyddol, gan gynnwys ymaelodi â phleidiau, ar ôl y refferendwm. Mewn rhai achosion fe arweiniodd at weithgarwch cyson o gwmpas etholiad cyffredinol 2015,” meddai Dr Peter Laverty a arweiniodd yr ymchwil.

“Ond roedd y patrymau’n anghyson ac fe ddywedodd rhai pobl 16 ac 17 oed fod eu diddordeb wedi pylu gan nad oedden nhw wedi gallu pleidleisio [yn 2015].

“Fe wnaethon ni ganfod hefyd bod Twitter yn cynnig ffordd wahanol i bobl gysylltu â gwleidyddiaeth a gwleidyddion, ond bod tueddiad cryf dim ond i ail-drydar barn pobl eraill yn hytrach na chymryd rhan mewn deialog go iawn.”

Ychwanegodd bod diddordeb pobl ifanc mewn gwleidyddiaeth wedi cynyddu yn ystod y refferendwm er nad oedd gwleidyddion wedi ymdrechu rhyw lawer i’w targedu.