Jeremy Corbyn (CCA 3.0)
Mae angen adeiladu economi ar sail busnesau ‘deche’, meddai arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn.

Fe fydd yn canmol busnesau gyda chydwybod cymdeithasol ar ôl galw i weld cwmni o’r fath ar ymweliad â Glasgow yn yr Alban.

Fe fydd yn canmol y cwmni mewn araith heno, mewn cinio i godi arian ar gyfer y blaid, gan ddweud eu bod yn esiampl i fusnesau eraill.

‘Gofyn i eraill dalu’

“Roedd yr argyfwng ariannol wedi gweld llawer yn talu am or-wneud ychydig bobol ar y top – pobol a fu’n ymddwyn yn anghyfrifol a gofyn i bobol eraill dalu,” meddai Jeremy Corbyn mewn dyfyniadau sydd wedi eu gollwng ymlaen llaw o’r araith.

“O’r argyfwng ariannol, fe ddylen ni fod yn adeiladu economi sydd wedi ei seilio ar fusnesau deche.”

Mae Jeremy Corbyn yn rhoi llawer o sylw i’r Alban ar hyn o bryd wrth geisio dadwneud chwalfa’r blaid yno yn yr Etholiad Cyffredinol.