Y Fonesig Rosemary Butler
Fe fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n ymweld ag Abertawe’r wythnos nesaf mewn ymgais i fynd i’r afael â’r hyn maen nhw’n ei alw’n “ddiffyg ymgysylltu” â gwaith y sefydliad ym Mae Caerdydd.

Mae’r wythnos o ddigwyddiadau a gweithgareddau’n rhan o gynlluniau Llywydd y Cynulliad, y Fonesig Rosemary Butler i ddangos i bobol Cymru beth mae’r sefydliad yn ei wneud ar eu rhan nhw.

Fe fydd tri chyfarfod pwyllgor yn cael eu cynnal yn y ddinas yn ystod yr wythnos, ac fe fydd cyfleoedd i ysgolion, colegau a grwpiau cymunedol i glywed sut mae’r Cynulliad yn gweithio, gan roi cyfle i’r grwpiau hynny ddylanwadu ar y gwaith maen nhw’n ei wneud.

Mae’r wythnos wedi’i threfnu mewn partneriaeth â’r papur newydd lleol, y South Wales Evening Post.

Cefndir

Cyn i’r Cynulliad gael ei sefydlu, roedd Abertawe yn y ras i fod yn gartref i’r sefydliad, gyda’r posibilrwydd o ailwampio adeiladau’r Cyngor.

Cafodd Abertawe wahoddiad ffurfiol yn 1998 gan Ron Davies, arweinydd y Cynulliad ar y pryd, i wneud cais ffurfiol i gynnal y sefydliad.

Ond fe gafodd ei gyhuddo o achosi rhwyg rhwng y ddwy ddinas, gydag awgrym mai ei gynnal yng Nghaerdydd oedd y bwriad o’r cychwyn.

Roedd y sawl oedd yn cefnogi cynnal y Cynulliad yng Nghaerdydd yn ffafrio ymestyn adeilad gwreiddiol y sefydliad yn hytrach na chodi adeilad newydd.

Yn y pen draw, cafodd safle ym Mae Caerdydd ei brynu er mwyn codi adeilad newydd sbon, a hynny am £49.7 miliwn mewn costau adeiladu, a bron i £20 miliwn mewn costau ychwanegol.

‘Diffyg ymgysylltu o hyd’

Yn ôl Llywydd y Cynulliad, y Fonesig Rosemary Butler, mae pobol Abertawe’n ei chael yn anodd uniaethu â’r sefydliad o hyd.

Mewn datganiad, dywedodd: “Mae’r Aelodau Cynulliad sy’n cynrychioli Abertawe, Gŵyr a Gorllewin De Cymru, fel pob Aelod, yn gwneud gwaith ardderchog yn cynrychioli barn eu hetholwyr pan fyddwn yn craffu ar ddeddfwriaeth neu bolisi Llywodraeth Cymru yn y Senedd.

“Ac eto pan rydych yn edrych ar  nifer y bobol yn Abertawe a bleidleisiodd yn etholiad diwethaf y Cynulliad, neu’r rhai sy’n ymgysylltu â’r Cynulliad yn rheolaidd, mae’r ffigurau’n awgrymu bod diffyg cysylltu â’r broses wleidyddol yn bodoli o hyd.

“Os nad yw pobol yn cymryd rhan ac yn pleidleisio, ni fydd eu llais na’u barn yn cael eu clywed.

“Mae annog pobl Cymru i gael mwy o gysylltiad â’r Cynulliad yn un o’i amcanion craidd, ac mae’n bwysig ein bod ni’n clywed am obeithion a dyheadau pob un o gymunedau Cymru.

“Dyna pam yr ydym yn Abertawe – rydym am glywed gan bobol Abertawe yr wythnos hon er mwyn sicrhau ein bod yn creu sail gadarn ar gyfer ymgysylltu yn y dyfodol.”

‘Gofyn cwestiynau pwysig’

Ychwanegodd golygydd y South Wales Evening Post, Jonathan Roberts:  “Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle ar gyfer ymgysylltu gwirioneddol rhwng gwleidyddion a’r cyhoedd ar ystod o faterion sy’n effeithio arnom ni yn Ne Orllewin Cymru.

“Tra bod ein ACau lleol yn mwynhau proffil cyhoeddus sylweddol drwy’r cyfryngau lleol, sy’n cefnogi eu gwaith yn y gymuned, efallai nad yw rôl ehangach y Cynulliad yn cael cystal sylw ar lefel leol.

“Rydym yn edrych ymlaen at ddefnyddio’r wythnos hon fel llwyfan i dynnu sylw at sut y mae’r Cynulliad yn gweithio i Abertawe.  Gyda nifer o ddatblygiadau cyffrous ar y gweill, nid yn unig yn y ddinas ond ar draws rhanbarth Bae Abertawe, nid oes amser gwell i ofyn y cwestiynau pwysig i’r bobl sy’n cyfrif.

“Fel partner swyddogol, mae’r Evening Post yn falch o gymryd rhan ganolog yn y broses honno.”

Amserlen yr wythnos

Dydd Llun – Cyfarfod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, 1.30 yn Amgueddfa’r Glannau

Dydd Mawrth – Bws y Cynulliad, 9.30 yn Sgwâr y Castell

Dydd Mercher – Stondin allgymorth galw heibio, 9.30 yn Llyfrgell Abertawe

Dydd Iau – Cyfarfod o’r Pwyllgor Menter a Busnes, 9.30 yn Amgueddfa’r Glannau; Bws y Cynulliad, 11.30 ym Mhrifysgol Abertawe; Ffair Rhwydweithio, 12.30 yn Neuadd Brangwyn; Seminar Coleg y Gyfraith Prifysgol Abertawe, 12 o’r gloch ym Mhrifysgol Abertawe; Digwyddiad i bobol ifanc, 4.30 ym Mhrifysgol Abertawe

Dydd Gwener – Cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, 10.30 yn Amgueddfa’r Glannau.