Fe fydd sioe sgiliau ryngweithiol fwyaf Cymru,  dan y teitl SgiliauCymru,  yn agor yn Llandudno heddiw gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James.

Bydd yna amrywiaeth o gyflogwyr adnabyddus yn cymryd rhan, gan gynnwys archfarchnad Aldi, a chwmni ynni Scottish Power. Caiff ymwelwyr â’r sioe gyfle i drafod wyneb yn wyneb â chyflogwyr er mwyn dysgu am gyfleoedd gyrfa a hyfforddiant.

Heddiw yw’r cyntaf o ddwy sioe SgiliauCymru, sy’n cael eu cynnal yn nau begwn y wlad: gyda’r ail sioe yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar Hydref 21 a 22. Bydd ysgolion, colegau a grwpiau cymunedol o bob rhan o Gymru ymhlith y 9,000 o bobl sy’n debygol o ymweld â’r ddau ddigwyddiad.

‘Ysbrydoli pobl ifanc’

Mae SgiliauCymru yn rhan o raglen Llywodraeth Cymru i gynnig gweithgareddau sy’n ysbrydoli pobl ifanc am yr amrywiaeth o hyfforddiant a chyfleoedd galwedigaethol sydd ar gael ledled Cymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog, Julie James: “Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llawn i wneud popeth o fewn ei gallu i wella ein lefelau sgiliau drwy roi’r cyfle i gynifer o bobl â phosibl fanteisio ar gyfleoedd galwedigaethol ac addysgol o safon.

“Mae nifer y cyflogwyr sy’n cymryd rhan yn SgiliauCymru yn dangos cymaint o gefnogaeth sydd i’r digwyddiad hwn. Dw i’n siŵr y byddan nhw’n manteisio’n llawn ar y cyfle ardderchog i arddangos eu busnesau i filoedd o unigolion, athrawon a rhieni, gan ddweud wrthyn nhw am y mathau o sgiliau, cymwysterau a phrofiad y mae eu hangen ar eu gweithwyr.”