Jeremy Corbyn
Mae arweinydd y Blaid Lafur wedi gwrthod gwahoddiad i dyngu llw i’r Cyfrin Gyngor yn dilyn ansicrwydd a fyddai’n datgan teyrngarwch i’r Frenhines.

Cafodd Jeremy Corbyn, sy’n weriniaethwr, ei wahodd i gyfarfod heddiw gyda’r corff o wleidyddion a ffigurau blaenllaw, ond dywedodd bod ymrwymiadau preifat yn ei atal rhag mynd.

“Cafodd Jeremy ei wahodd, ond doedd e ddim yn gallu mynd oherwydd trefniadau preifat,” meddai llefarydd ar ei ran.

Rhaid i bob aelod dyngu llw

Mae aelodaeth o’r grŵp hynafol yn galluogi arweinydd yr Wrthblaid i weld dogfennau briffio cyfrinachol gan y gwasanaethau diogelwch.

Mae’n rhaid i bob aelod dyngu llw i beidio â datgelu’r wybodaeth sy’n cael ei rhoi iddyn nhw.

Mae’r Daily Telegraph wedi dweud y gallai’r gwleidydd asgell chwith osgoi gorfod moesymgrymu o flaen y Frenhines drwy dyngu llw gan Orchymyn  y Cyngor heb iddo fod yn bresennol, dull sy’n cael ei ddefnyddio i aelodau sy’n byw tramor.

Yn ôl y llefarydd, does dim dyddiad arall wedi cael ei bennu hyd yn hyn ar gyfer y broses, gan ddweud ei fod yn “ansicr” am y protocol ar gyfer osgoi’r angen i dyngu llw yn fwriadol.

Doedd Jeremy Corbyn ddim yn ymwybodol o’r traddodiad o benlinio a dywedodd yn fuan ar ôl ei etholiad, y byddai angen iddo drafod â’i gydweithwyr am y ffordd orau o ymdrin â’r sefyllfa.