Mae cynlluniau i adeiladu pentref gwyliau a chartrefi i weithwyr a fydd yn adeiladu atomfa newydd ar Ynys Môn, gam yn nes heddiw wedi i gynghorwyr gytuno ar nifer o amodau cynllunio allweddol.

Bydd yn rhaid i’r datblygwyr Land and Lakes, dderbyn sêl bendith Cyngor Ynys Môn ar nifer o bwyntiau ychwanegol.

Daw’r penderfyniad heddiw wedi misoedd o drafodaethau am gytundebau cyfreithiol o dan adran 106 Deddf Cynllunio Tref a Gwlad.

Bwriad y cwmni Land & Lakes yw adeiladu pentrefi hamdden ym Mharc Glannau Penrhos, Parc Cybi a datblygiad preswyl yn Kingsland, Caergybi. Mae bwriad i adeiladu hyd at 500 o fythynnod ym Mharc Glannau Penrhos.

Fe wrthododd aelodau o Bwyllgor Cynllunio Ynys Môn gymeradwyo’r cynllun dadleuol i adeiladu cannoedd o dai a phentrefi hamdden ger Caergybi, yn ystod cyfarfod ym mis Gorffennaf gan ohirio’r penderfyniad, tra’n gofyn am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r cynllun.

Ymhlith yr amodau a roddwyd gan Gyngor Môn, yw na ddylid addasu’r unedau os nad yw cynlluniau ar gyfer Wylfa Newydd yn parhau, ac sydd ddim yn cyrraedd y meini prawf perthnasol neu heb gael cytundeb pellach y Cyngor.

‘Pryderon amgylcheddol’

Croesawodd y Cynghorydd Richard Dew y penderfyniad: “Dyma’r cais cynllunio mwyaf sydd wedi cael ei ystyried gan Gyngor Ynys Môn. Yr oedd yn hanfodol, fodd bynnag, fod yna ddarpariaethau amrywiol wedi’u cynnwys yn y cytundeb cyfreithiol a gafodd ei archwilio yn ofalus ac yn gynhwysfawr.”

Ychwanegodd Richard Dew: “Mae amodau’r cytundeb dan adran 106 gyda datblygwyr Land and Lakes, yn debyg o ddod a £20 miliwn i liniaru effeithiau posib y gall cais ar y raddfa yma gael ar yr ardal. Yr hyn sy’n holl bwysig, yw bod pryderon amgylcheddol sy’n cael eu codi yn eu cael eu taclo.”

“Fe fydd y gwasanaethau cynllunio yn troi ei olygon at gau pen y mwdwl ar fanylion y cytundeb a’r cynlluniau, gan weithio gyda datblygwyr ar gynlluniau dylunio manwl.”