David Cameron
Mae David Cameron wedi bod yn amlinellu ei weledigaeth am “Brydain Fawr well” wrth iddo annerch cynhadledd y Blaid Geidwadol ym Manceinion heddiw.

Mae’r Prif Weinidog wedi rhoi addewid i dreulio’r pum mlynedd nesaf yn mynd i’r afael a phroblemau cymdeithasol y wlad – tlodi, diffyg cyfleoedd, anffafriaeth ac eithafiaeth.

Dywedodd ei fod hefyd am weld mwy o gefnogaeth i werthoedd Prydain – “rhyddid, democratiaeth a chydraddoldeb”.

Fe dderbyniodd gymeradwyaeth frwd wrth iddo ddweud na fydd yn caniatáu i’r arweinydd Llafur Jeremy Corbyn fygwth diogelwch a sefydlogrwydd y wlad, gan ei gyhuddo o “gasau Prydain.”

‘Problemau cymdeithasol ddim yn anochel’

Yn ystod ei bum mlynedd olaf wrth y llyw, meddai David Cameron, mae am weld yr economi’n cael ei hadfer a mynd i’r afael a phroblemau cymdeithasol.

Fe amlinellodd ei gynlluniau i ddiwygio carchardai, gwella cyfleoedd i blant sydd mewn gofal, ac adeiladu tai fforddiadwy i helpu pobl ifanc i brynu eu cartrefi eu hunain.

“Dros y pum mlynedd nesaf byddwn yn dangos nad yw’r problemau dwys yn ein cymdeithas yn anochel,” meddai David Cameron.