Mary Hughes a Dafydd Idriswyn Jones
Dyw’r Grid Cenedlaethol ddim wedi ymgynghori’n ddigonol nac ystyried barn pobl Ynys Môn wrth fwrw ymlaen â chynlluniau i godi peilonau enfawr ar draws yr ynys, yn ôl mudiad sydd yn poeni am effaith y datblygiad.

Mae Unllais Cymru Môn wedi bod yn galw ar y Grid ers misoedd i gefnu ar eu cynlluniau ar gyfer peilonau, ac yn hytrach i adeiladu ceblau tanfor rhwng yr ynys a Glannau Mersi fyddai’n trosglwyddo trydan o brosiectau ynni’r ynys.

Mae ymgyrchwyr hefyd wedi cyhuddo’r Grid o gynnal ‘ymgynghoriad ffals’ â phobl leol ynglŷn â’u cynlluniau, er bod Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad yr ynys yn ogystal â’i chynghorwyr i gyd yn gwrthwynebu’r peilonau.

Ond mae’r Grid Cenedlaethol wedi dweud wrth Golwg360 eu bod yn ffafrio peilonau yn hytrach na cheblau tanfor gan ei fod yn rhatach ac yn llai tebygol o achosi problemau technegol trafferthus.

‘Effeithio prisiau tai a thwristiaeth’

Cafodd dros 200 o lythyrau eu cyflwyno’n ddiweddar gan Gyngor Cymuned Mechell, sydd yn agos i orsaf niwclear yr Wylfa, i Unllais Cymru Môn gan bobl leol oedd yn gwrthwynebu’r cynlluniau.

Yn ôl cadeirydd y mudiad Dafydd Idriswyn Roberts fe allai’r peilonau newydd yn cael effaith andwyol ar “werth eiddo, amaeth, twristiaeth ac amgylched Môn”.

“Yn y cymunedau ble mae’r cynghorwyr wedi gofyn i’r etholwyr am eu hymateb i ymgyrch y Grid i orfodi peilonau newydd ar yr ynys, mae’r gwrthwynebiad i beilonau yn parhau yn gryf,” meddai cadeirydd pwyllgor peilonau Unllais Cymru Môn.

“Yn wir mae’r gwrthwynebiad yn dwysau ac mae’r llythyron a dderbyniwyd yn dangos fod pobl yn cefnogi ceblau tanfor ond yn gwrthwynebu peilonau a dulliau ‘ymgynghori ac anwybyddu’r’ Grid.

“Yn amlwg mae’r Grid yn gobeithio drwy anwybyddu ein llais y byddwn yn anobeithio ac yn rhoi’r ffidl yn y to – yn amlwg nid ydynt yn adnabod pobl Gwlad y Medra.”

‘Aberthu Môn’

Pwysleisiodd Mary Hughes, cadeirydd Cyngor Cymuned Mechell, fod eu hymgyrch  wedi denu cefnogaeth eang gan gynnwys gan yr AS Albert Owen a’r AC Rhun ap Iorwerth.

“Maent wedi cael llond bol o’r Grid Cenedlaethol yn anwybyddu ein llais democrataidd a’n hawl i gael ymgynghoriad teg,” meddai Mary Hughes.

“Sbïwch ar gymuned Mechell, sydd ynghlwm a’r traddodiad cynhyrchu ynni ond sy’n gwahaniaethu rhwng y cynhyrchu a’r trosglwyddo ynni, mae undod yn yr ymgyrch yn erbyn trosglwyddo’r trydan ar beilonau.

“Nid ydym yn barod i aberthu asedau Môn i sybsideiddio biliau trydan gweddill y Deyrnas Gyfunol.

“Gwyr pawb mai ceblau tanfor, a oedd yn opsiwn derbyniol yn yr adroddiad dichonolrwydd, yw’r dewis teg i Fôn.”

Costio mwy

Fe gyhoeddodd y Grid Cenedlaethol ym mis Ionawr eleni eu bod yn credu mai peilonau ar draws y tir oedd yr opsiwn gorau, gyda cheblau tanfor yn cael eu gosod o dan yr Afon Menai.

Dywedodd llefarydd ar ran y Grid wrth Golwg360 nad oedd y safbwynt hwnnw wedi newid, er eu bod yn cydnabod fod gwrthwynebiad wedi bod i beilonau ar yr ynys.

“Mae llawer o bobl wedi dweud wrthym ni eu bod nhw eisiau i ni roi’r gwifrau yn y môr ac rydym wedi ystyried yn ofalus os allwn ni wneud hyn,” meddai’r llefarydd.

“Am sawl rheswm dydyn ni ddim yn meddwl mai cyswllt tanfor yw’r opsiwn cywir. Yn gyntaf dyw pwerdy niwclear erioed wedi cael ei gysylltu’n uniongyrchol â chysylltiadau HVDC (high-voltage direct current, sydd yn cael ei ddefnyddio i drosglwyddo llawer o drydan dros bellteroedd hir) ac fe fyddai’r her dechnegol ddigyffelyb hwn yn peryglu’n siawns ni o gysylltu Wylfa Newydd mewn pryd.

“Yn ogystal, byddai unrhyw nam yn y ceblau tanfor yn gallu cymryd hyd at chwe mis i’w drwsio. Rydym yn amcangyfrif y byddai ceblau tanfor yn golygu cost o £600m ychwanegol i ddefnyddwyr ynni na’r dewis rydym ni wedi ei awgrymu.”

Bydd ail ymgynghoriad yn cael ei chynnal gan y Grid Cenedlaethol rhwng 21 Hydref a 16 Rhagfyr eleni, ble mae disgwyl iddyn nhw gynnig opsiynau ar ba lwybr ddylai peilonau gael eu hadeiladu ar draws yr ynys.