David Cameron
Mae’r Prif Weinidog wedi dweud ei fod yn falch o’r “criw talentog” a allai ei olynu fel arweinydd y Blaid Geidwadol.

Mynnodd David Cameron na fydd yn ail-ystyried  ei benderfyniad i beidio ceisio am drydydd tymor yn rhif 10 Dowing Street.

Cafodd ei holi am ei gynlluniau wrth i’r ras am yr arweinyddiaeth boethi, gyda’r ymgeiswyr posibl yn cymryd eu tro i annerch cynhadledd y Ceidwadwyr ym Manceinion.

Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May, Boris Johnson, Maer presennol Llundain a’r Ysgrifennydd Addysg Nicky Morgan annerch y blaid heddiw, ar ôl i’r Canghellor George Osborne gyflwyno’i araith ddoe.

Gwadodd y Prif Weinidog mai George Osborne oedd ei “olynydd dewisol”, gan ddweud mewn cyfweliad gyda  LBC nad fe oedd yn dewis olynydd.

“Mae 10 mlynedd yn amser hir fel Prif Weinidog”

Wrth gael ei holi ar Sky News, cadarnhaodd David Cameron na fyddai’n parhau am drydydd tymor fel arweinydd ei blaid.

“Mae gen i dîm talentog y tu ôl i mi, ac ar ôl i mi wneud y ddau dymor, y 10 mlynedd, rwy’n siŵr y bydd llawer o bobl dalentog yn rhoi eu henwau ymlaen, ac rwy’n falch o’r ffaith eu bod yn cael sylw fel criw talentog,” meddai.

“Rwy’n meddwl bod 10 mlynedd yn amser hir fel Prif Weinidog ac rwy’n meddwl bydd pobl yn barod am rywun newydd ar ôl hynny.”

Gwrthododd y Prif Weinidog awgrymiadau bod Boris Johnson a George Osborne am yddfau ei gilydd.

“Does dim tensiwn. Dyw hon ddim yn sefyllfa Blair/Brown lle mae pawb am yddfau ei gilydd. Mae Boris, George a minnau yn gweithio’n agos iawn gyda’n gilydd, rydym yn dod ymlaen yn dda gyda’n gilydd a dwi’n meddwl eich bod chi’n gallu gweld hynny,” meddai wedyn.