Charlotte Church
Mae’r gantores o Gaerdydd, Charlotte Church, wedi ymddiheuro am ymddygaid rhai o’r protestwyr y tu allan i Gynhadledd y Ceidwadwyr ym Manceinion, wedi i rai ohonyn nhw boeri ar newyddiadurwyr.

Mae hefyd wedi condemnio’r “lleiafrif o wrthdystwyr” a fu’n galw enwau ac yn ymddwyn yn fygythiol, ac mae wedi addo ysgrifennu llythyr agored o ymddiheuriad.

Roedd rhai yn y criw o brotestwyr wedi bod yn galw enwau ar Aelodau Seneddol, aelodau o’r blaid, newyddiadurwyr, lobïwyr a staff y blaid y tu allan i’r ganolfan gynadledda.

“Fydden i, yn bersonol, ddim yn galw neb yn ‘sgym’,” meddai Charlotte Church. “Dyw hynny ddim o help o gwbwl yn y ddadl yn erbyn toriadau llym. Dyw galw enwau byth yn syniad da.”