Nicola Sturgeon dan y lach
Mae’r Ceidwadwyr yn gobeithio am y canlyniadau gorau erioed yn etholiadau nesaf Holyrood, meddai’r arweinydd Ruth Davidson.

Mae Davidson newydd gyhoeddi bwriad ei phlaid i gyflwyno lwfans gofalwyr newydd.

Dywedodd fod y refferendwm annibyniaeth y llynedd wedi rhoi ail wynt i’r blaid yn sgil diffyg llwyddiant Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Ac roedd hi’n barod iawn i feirniadu “anallu” yr SNP.

Wrth annerch y wasg ar y diwrnod y mae cynhadledd y blaid yn cael ei chynnal ym Manceinion, dywedodd Ruth Davidson: “Dw i ddim yn darogan [canlyniadau] etholiadau, dw i erioed wedi gwneud hynny.

“Dw i erioed wedi dweud sawl sedd gawn ni, ond dw i wedi darogan yr un yma.”

Dywedodd ei bod yn disgwyl i’w phlaid ennill eu nifer fwyaf o seddi erioed.

Ychwanegodd fod bron i chwarter o’i chefnogwyr wedi pleidleisio mewn modd tactegol yn yr etholiad cyffredinol ym mis Mai, ond bod cyfle i ehangu gorwelion y blaid yn Holyrood.

“Byddwn ni, Geidwadwyr yr Albam yn siarad ar ran y ddau filiwn o Albanwyr sydd am gadw ein gwlad o fewn y DU.

“A byddwn ni, Geidwadwyr yr Alban, bob amser yn sefyll i fyny dros deuluoedd sydd am ddod ymlaen yn y byd.”

Ymhlith ei chynlluniau mae cyflwyno lwfans gofalwyr fel ei fod yn debyg i lefel y lwfans sydd ar gael i bobol sy’n chwilio am waith.

Dywedodd fod gofalwyr yn haeddu’r fath gymorth.

Cafodd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon ei beirniadu gan Ruth Davidson am anwybyddu pryderon dydd i ddydd Albanwyr.

“Bythefnos yn ôl, gallai Nicola Sturgeon yn syml iawn fod wedi defnyddio achlysur blwyddyn ers y refferendwm i ailadrodd ei geiriau ei hun a derbyn na fyddai ail [refferendwm] am genhedlaeth arall.

“Yn hytrach, ychwanegodd hi at bryderon cyflogwyr yn yr Alban sy’n dweud wrthyf bob wythnos fod trafod ar refferendwm arall yn niweidio’u gallu i ehangu.

“Dydy hynny ddim yn ddigon da.”