Cafodd Huw Prys Jones olwg fanylach ar ddogfen Cymdeithas yr Iaith, Miliwn o Siaradwyr Cymraeg

Mae’r syniad uchelgeisiol o anelu at filiwn o siaradwyr Cymraeg yn un sy’n debygol o apelio. Mae hefyd yn debygol o gael ei gefnogi mewn egwyddor gan y pleidiau gwleidyddol, sydd eisoes wedi datgan cefnogaeth i amcanion o’r fath.

Mae sut mae cyflawni’r nod wrth gwrs yn gwestiwn arall.

I fod yn deg, mae Cymdeithas yr Iaith yn cydnabod nad ydi hyn yn rhywbeth y gellir ei gyflawni dros nos. Yn wir, wrth nodi mai anelu at y flwyddyn 2051 a wneir, a thrwy amlinellu camau tuag at y nod, ni ellir ei ddiystyru fel ffantasi llwyr.

Gwendid mwyaf nod hirdymor o’r fath mewn dogfen wleidyddol fel hon, fodd bynnag, ydi nad oes modd dal gwleidyddion yn atebol amdano. Gall unrhyw wleidydd addo gwneud popeth yn ei allu i gyrraedd y nod, gan wybod y bydd ef neu hi wedi hen ymddeol ymhell cyn i neb allu barnu os buon nhw’n llwyddiannus ai peidio.

Gan fod Cymdeithas yr Iaith yn disgrifio’r ddogfen fel ‘rhaglen ar gyfer llywodraeth nesaf Cymru’, fe fyddai’n llawer cryfach petai hi’n gosod amcanion pendant o’r newidiadau y mae’n disgwyl eu gweld dros y pum mlynedd nesaf.

Meini praf

Hyd y gwelaf i, dydi’r ddogfen ddim yn nodi beth fydd y meini prawf a fydd yn dangos a ydym ar y trywydd iawn neu beidio ymhen pum mlynedd.

Ymddangos yn arwynebol hefyd mae ei dehongliad o arwyddocâd canlyniadau Cyfrifiad 2011.

Gor-symleiddio a gor-liwio ydi darlunio’r hyn sy’n digwydd fel colled net o 3,000 o siaradwyr Cymraeg rhugl bob blwyddyn.

Ar ben hynny, nid yw’r honiad yn nhrydedd frawddeg y cyflwyniad fod y gostyngiad mwyaf yn nifer y siaradwyr Cymraeg wedi bod yn yr ardaledd lle mae’r Gymraeg ar ei chryfaf yn fanwl gywir. Yn yr ardaloedd lle’r oedd yr iaith eisoes ar drai y gwelwyd y gostyngiadau mwyaf mewn niferoedd, a rhesymau demograffig oedd yn bennaf gyfrifol am hynny.

Un arall o’r prif resymau dros y gostyngiad (cymharol fach) yng nghyfanswm y siaradwyr Cymraeg drwy Gymru oedd y graddau yr oedd plant a nodwyd fel rhai a oedd yn gallu siarad Cymraeg yn 2001 yn ymddangos fel petaent wedi colli’r iaith 10 mlynedd yn ddiweddarach.

O’r 75,000 o blant 10-14 a nodwyd fel rhai a oedd yn siarad Cymraeg yn 2001, llai na’u hanner, 37,000 o’r rhain oedd yn siarad Cymraeg yn 20-24 oed yn 2011.

Efallai nad oedden nhw’n gallu siarad Cymraeg yn 2001 yn y lle cyntaf, ond os felly mae lle cryf iawn i amau’r ffigurau am y plant sy’n gallu siarad Cymraeg yn 2011 hefyd.

Mae’r tueddiad hwn o blant yn colli’r iaith yn arbennig o amlwg yn yr ardaloedd lle mae’r canrannau isaf o bobl sy’n gallu siarad Cymraeg, ac felly’n codi cwestiynau sylfaenol am unrhyw obaith o greu Cymru ddwyieithog trwy ysgolion yn unig.

Da felly fod y ddogfen yn cydnabod pwysigrwydd dysgu Cymraeg i oedolion yn ogystal.

Ond tybed hefyd nad yw’r syniad o gyfanswm o siaradwyr Cymraeg trwy Gymru yn llinyn mesur llawer rhy amrwd o wir sefyllfa’r iaith?

Lawn cyn bwysiced â’r nifer sy’n siarad yr iaith yw’r nifer sy’n dewis ei defnyddio.

A’r unig ffordd i hybu’r defnydd o’r iaith ydi cynnal, cryfhau ac ymestyn y cymunedau a’r rhwydweithiau sy’n bod eisoes.

Gwahaniaethau o fewn Cymru

Yr un gwendid mawr yn yr holl gynlluniau sydd wedi cael eu cynnig ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg dros y degawdau diwethaf ydi’r methiant i roi sylw digonol i’r gwahaniaethau o fewn Cymru.

Mae’r un peth yn wir i raddau am y ddogfen hon.

Mae Cymru’n wlad lle mae cymaint o amrywiadau rhwng ardaloedd a’i gilydd fel ei bod yn anodd gwneud unrhyw ddyfarniad ystyrlon o gyflwr y Gymraeg yn genedlaethol. Yr hyn sydd gennym ydi’r Gymraeg yn ffynnu a dal ei thir yn rhyfeddol mewn rhai ardaloedd, ond yn dirywio mewn ardaloedd eraill. Mae hefyd yn ymddangos fel ei bod ar gynnydd mewn rhai ardaloedd er bod craffu manylach yn codi cwestiynau ynghylch pa mor gynaliadwy ydi’r cynnydd hwnnw.

Mae’n hanfodol felly cael targedau rhanbarthol yn ogystal â rhai cenedlaethol mewn unrhyw raglen ar gyfer llywodraeth.

Yn sicr, mae angen mwy o bwyslais nag sydd wedi bod ar gynnal  y cadarnleoedd cryfaf yn y gogledd-orllewin os am ddiogelu’r iaith fel iaith hyfyw i’r dyfodol.

Mae’r ddogfen hon i’w chanmol am y ffordd y mae’n rhoi sylw i faterion cynllunio ac economaidd, ond mae angen datblygu’r rhain fel eu bod yn berthnasol i ardaloedd penodol.

Pa mor realistig?

Mae rhai agweddau o’r cynigion am fod yn afrealistig yn wleidyddol. Beth bynnag fo rhinweddau’r syniad o fynnu bod cyrff cyhoeddus yn clustnodi o leiaf 1% o’u cyllid er mwyn datblygu a hyrwyddo’r Gymraeg, all rhywun ond dychmygu beth fyddai ymateb cyrff fel byrddau iechyd i hyn ar adeg o gymaint o doriadau ariannol.

Mae yna ffordd bell i fynd hefyd o ran perswadio’r cyhoedd i chwyldroi’r gyfundrefn addysg i’r graddau a argymhellir yn y ddogfen hon.

Ac mae’r  pennawd ‘Atal yr Allfudiad’ yn ymddangos yn nod hynod uchelgeisiol, os nad dadleuol i rai, er bod rhai o’r argymhellion polisi’n swnio’n ddigon rhesymol.

O’i hystyried yn ei chyfanrwydd, mae’r ddogfen yn gyfraniad gwerthfawr fel man cychwyn am drafodaethau ehanagach a manylach dros y misoedd i ddod.