Stephen Crabb
Mae Ysgrifennydd Cymru wedi dweud bod y gobeithion o gael cytundeb ar fesur newydd datganoli yn “wan iawn, iawn”.

Ac, yn ôl Stephen Crabb, mae ethol Jeremy Corbyn yn arweinydd y Blaid Lafur yn golygu bod y gobeithion yn wannach fyth.

Fe honnodd y byddai Llafur yn gwrthod y mesur oherwydd eu bod eisiau cadw’r posibilrwydd yn agored o gydweithio gyda Phlaid Cymru ar ôl yr etholiad nesa’.

Mae’r sylwadau ym mhapur y Western Mail wedi dod wrth i Lywodraeth Cymru a Swyddfa Cymru drafod Mesur Cymru sy’n anelu at newid y drefn ddatganoli.

Y drafodaeth

Y bwriad yw nodi pa bwerau sy’n cael eu cadw yn San Steffan, gyda’r gweddill yn cael eu datganoli i Fae Caerdydd.

Ond mae yna anghytundeb ar pa bwerau’n union ac yn, arbennig, tros alwad i greu trefn gyfreithiol ar wahân i Gymru.

Yr wythnos ddiwetha’, roedd adroddiad gan academyddion ac arbenigwyr cyfreithiol wedi beirniadu’r Mesur gan ddweud bod elfennau ohono’n ddryslyd a, hyd yn oed, yn gam yn ôl o ran datganoli.

Gwrthod hynny a wnaeth Stephen Crabb gan ddweud nad oedd yr adroddiad wedi ei seilio ar y fersiwn terfynol o’r Mesur.

‘Ddim yn dderbyniol’

Mae’r Mesur wedi codi o ‘Gytundeb Dydd Gŵyl Dewi’ ond, yn ôl y pleidiau eraill, dyw’r Mesur ddim yn adlewyrchu hynny.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi dweud nad fydd y Mesur fel y mae yn dderbyniol i’r Llywodraeth nag i bobol Cymru.

Yn ôl llefarydd Plaid Cymru, Alun Ffred Jones, mae’r Ceidwadwyr yn dweud eu bod eisiau gwella’r drefn, heb fod yn fodlon gwneud y newidiadau cyfansoddiadol sydd eu hangen.