Mae Jeremy Corbyn wedi cyrraedd cynhadledd y Blaid Lafur yn Brighton, gan addo “mwy o obaith ac optimistiaeth” i’r aelodau.

Fe ddaeth arweinydd y blaid i’w gynhadledd gynta’ yn yr uchel swydd, i groeso criw brwdfrydig o gefnogwyr. Fe oedodd i gael tynnu ei lun gyda chefnogwyr, tra’r oeddan nhwthau’n siantio slogan yr ymgyrch arweinyddiaeth, “Jez we can”.

Er ei fod wedi cael pythefnos anodd yn y swydd, gyda rhwygiadau rhyngddo ac aelodau’i gabinet wedi’u hamlygu’n gyhoeddus iawn, roedd Jeremy Corbyn heddiw yn mynnu fod yna fwy sy’n dwyn aelodau’r Blaid Lafur at ei gilydd nac sy’n eu gwahanu.

“Edrychwch at yr undeb sydd yna allan yn fan hyn, edrychwch ar y gobaith sydd gan bobol y gallwn ni greu cymdeithas well gyda gwell tai, gwell addysg, gwell gwasanaeth iechyd a gobaith i bobol ifanc,” meddai.

“Dyna sy’n cadw’r blaid yma gyda’i gilydd.”