Mae’r Adran Drafnidiaeth yn bwriadu cynnal ail brofion ar geir yn y DU er mwyn cymharu canlyniadau allyriadau yn dilyn sgandal Volkswagen, meddai’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Patrick McLoughlin heddiw.

Mae’r cwmni cynhyrchu ceir o’r Almaen wedi dweud bod 11 miliwn o gerbydau yn fyd eang yn cynnwys meddalwedd sy’n ffugio canlyniadau allyriadau, fel eu bod yn cwrdd â safonau amgylcheddol.

Dywedodd Patrick McLoughlin bod y Llywodraeth yn cymryd “gweithredoedd annerbyniol VW yn ddifrifol iawn.

“Rydym wedi galw ar yr Undeb Ewropeaidd i gynnal ymchwiliad ar draws Ewrop i weld a oes tystiolaeth bod dyfeisiadau ffug yn y ceir.”

Yn y cyfamser, meddai, mae’r Asiantaeth Ardystio Cerbydau (VCA) yn cydweithio gyda gwneuthurwyr ceir i sicrhau nad yw’r arfer yn gyffredin ar draws y diwydiant.

‘Effeithio ceir yn Ewrop’

Mae Ysgrifennydd Trafnidiaeth yr Almaen wedi dweud bod y feddalwedd a ddefnyddiwyd i dwyllo profion allyriadau mewn ceir yn yr Unol Daleithiau hefyd wedi cael ei osod mewn ceir yn Ewrop.

Dywedodd Alexander Dobrindt: “Nid oes gennym ffigurau yn dangos faint o’r 11 miliwn o’r ceir hynny sydd wedi cael eu heffeithio yn Ewrop. Fe fydd hyn yn cael ei ganfod yn y dyddiau nesaf.”

Ddiwrnod ar ôl i brif weithredwr VW, Martin Winterkorn,  ymddiswyddo mae’r cwmni wedi dweud eu bod yn disgwyl rhagor o ddiswyddiadau yn y dyddiau nesaf.

BMW yn gwadu honiadau

Mae cwmni ceir arall o’r Almaen, BMW wedi gwadu honiadau fod un o’u ceir, BMW X3, hefyd wedi torri’r rheolau gyda phrofion allyriadau, wrth i gyfranddaliadau’r cwmni ostwng 7%.

Cafodd yr honiadau eu gwneud gan gylchgrawn Auto Bild yn yr Almaen, ac fe ymatebodd BMW gyda datganiad yn gwadu eu bod wedi torri’r rheolau.