David Cameron
Fe fydd David Cameron yn croesawu Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande i Chequers wrth iddo ddwysau ei ymdrechion diplomyddol i sicrhau cefnogaeth i’w gynlluniau i ddiwygio aelodaeth Prydain o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Daw cyfarfod y Prif Weinidog gyda Francois Hollande yn dilyn trafodaethau gyda phrif weinidog Denmarc, Lars Lokke Rasmussen. Roedd y ddau wedi cytuno i geisio ystyried sut i roi mwy o reolaeth i aelodau’r UE dros fynediad i fudd-daliadau.

Bydd yr Ysgrifennydd Tramor Philip Hammond hefyd yn pwyso am ddiwygiadau pan fydd yn ymweld â Brwsel a Pharis yr wythnos hon.