Tim Farron
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron, wedi cyhoeddi heddiw y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn “drychineb” i’r cyfandir.
Yn ystod cynhadledd y blaid yn Bournemouth heddiw, fe ddywedodd fod yr ymgyrch i aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd “yn frwydr dros ein gwareiddiad”.
Mae pleidleisio i aros yn rhan o’r UE yn rhywbeth “gwladgarol” i’w wneud, meddai.
“Mae gwladgarwyr yn caru eu gwlad, mae cenedlaetholwyr yn casáu eu cymdogion,” esboniodd.
“Mi ydw i yn wladgarwr, ac yn caru fy nghymdogion”, ychwanegodd Tim Farron gan bwysleisio’i gred y dylai Prydain aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.
‘Busnesau’n dioddef’
Fe ddywedodd y byddai pleidleisio i adael yr UE yn achosi “niwed i ffyniant y wlad”, gyda busnesau’n dioddef.
“Beth fyddai’n digwydd drannoeth i’r bleidlais o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd?” gofynnodd Arweinydd y Blaid.
“Byddai’n drychineb i Brydain, a hefyd yn drychineb i Ewrop, oherwydd beth fyddai’n digwydd nesaf?”
“Mae’r byd yn edrych yn llwm ac yn dywyll – hyd yn oed y tu hwnt i lannau Prydain os ydym am adael yr Undeb Ewropeaidd”, meddai.
“Mae hwn yn fater o’r pwys mwyaf,” ychwanegodd Tim Farron.