Nick Clegg
Fe fyddai pleidlais o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd yn rhwygo’r DU, mae disgwyl i Nick Clegg rybuddio heddiw.

Fe fydd y cyn-ddirprwy Brif Weinidog yn defnyddio ei araith yng nghynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Bournemouth heddiw i rybuddio y byddai pleidlais o blaid Prydain yn gadael yr UE yn arwain at ail refferendwm ynglŷn ag annibyniaeth yr Alban, ac y byddai hynny’n darnio’r DU.

Mae disgwyl i Nick Clegg hefyd annog y Blaid Lafur i ymgyrchu’n frwd o blaid aros yn rhan o’r UE yn dilyn dryswch ynglyn a safiad Jeremy Corbyn ar ôl iddo gael ei benodi’n arweinydd newydd y blaid.