Huw Prys Jones
Dangos  agwedd gul ac anoddefgar y mae’r rheini sy’n collfarnu Jeremy Corbyn am iddo beidio â chanu God Save the Queen, yn ôl Huw Prys Jones

Mae’r anoddefgarwch sy’n cael ei ddangos tuag at Jeremy Corbyn am iddo beidio â chanu God Save the Queen ddoe yn rhywbeth a ddylai beri pryder i bawb ohonom.

Nid gormodiaith ydi dweud bod yr agweddau sy’n cael eu mynegi yn rhai totalitaraidd eu naws.

Yr unig wladwriaeth y gallaf feddwl amdani lle byddai’n orfodol canu unrhyw gân ydi Gogledd Corea. Ai dyma’r math o wlad yr hoffai’r brenhinwyr a’r cenedlaetholwyr Seisnig hyn fyw ynddi?

Y cyhuddiad rhyfeddaf ydi bod Jeremy Corbyn yn dangos amarch tuag at goffadwriaeth y milwyr a gafodd eu lladd ym Mrwydr Prydain wrth beidio â chanu’r gân frenhinol yn y gwasanaeth ddoe.

Y cyfan a wnaeth oedd sefyll yn urddasol mewn distawrwydd yn lle canu cân nad yw’n credu ynddi.

Prin y byddai neb yn gwarafun coffadwriaeth deilwng i’r peilotiaid a roddodd eu bywydau yn erbyn goresgyniad Natsïaidd o Brydain yn 1940.

‘Canolbwyntio ar y pethau sy’n cyfrif’

Mi fyddai rhywun yn disgwyl felly y byddai newyddiadurwyr yn dangos parch at yr achlysur yng Nghadeirlan Sant Paul ddoe trwy ganolbwyntio ar y pethau sy’n cyfrif yn lle gwneud môr a mynydd o ystumiau neu osgo unrhyw wleidydd yn y ddefod o ganu anthem ar y diwedd.

Yr unig gasgliad y gellir dod iddo ydi bod y cenedlaetholwyr Seisnig hyn yn teimlo rhyw ddiffyg hyder dychrynllyd yn eu hunaniaeth os ydi pethau mor bitw â pheidio canu anthem (nad yw’n ddim byd ond cân wedi’r cwbl) yn eu tramgwyddo.

Mae’n arwydd hefyd o ryw fath  o anaeddfedrwydd cynhenid ynddyn nhw tuag at yr holl syniad o wladwriaeth a chenedl.

Onid symbolau sy’n perthyn i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ydi pethau fel anthemau a baneri p’run bynnag ac nid pethau i’w cymryd mor ddychrynllyd o ddifrifol?

Mi ddylai unrhyw genedl hunan hyderus yn yr unfed ganrif ar hugain fod ag ysgwyddau digon llydain i beidio ag amau gwladgarwch pobl nad ydynt yn dewis cydymffurfio â rhai o’i defodau traddodiadol.

Gobeithio’n wir ein bod ni fel Cymry ymhlith cenhedloedd eangfrydig o’r fath, ac na fyddwn byth fel y Saeson cul ac anoddefgar hyn.