Alex Salmond
Roedd cyn Brif Weinidog yr Alban yn barod i ddatgan “perthynas newydd, amhosibl ei thorri” ag ynysoedd Prydain os byddai’r Alban wedi pleidleisio dros annibyniaeth mewn araith na fyddai fyth yn ei rhoi.

Byddai Alex Salmond, a wnaeth araith ymddiswyddo yn hytrach nag un buddugol ar 19 Medi, 2014, wedi datgan bod yr Alban yn “genedl sydd wedi cael ei haileni”.

Mae testun araith fuddugol  Alex Salmond wedi cael ei roi i James Mitchell, athro polisi cyhoeddus yn Academi Llywodraeth Prifysgol Caeredin ar gyfer ymchwil at y dyfodol.

Mae’r araith wedi cael ei chyhoeddi yn y Scottish Sun, bron i flwyddyn ers pleidlais y refferendwm, a oedd yn drobwynt i’r SNP ac a arweiniodd at fuddugoliaeth ysgubol iddynt yn yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.

Byddai Alex Salmond wedi addo “i weithio’n adeiladol ac yn gadarnhaol i weithredu ewyllys y bobl” ar ôl pleidlais Ie a chynnig “llaw gyfeillgar yn syth” i’r bobl a bleidleisiodd Na.

Yn ei araith, byddai Alex Salmond wedi datgan bod yr Alban yn parhau i fod yn “aelod adeiladol a blaengar o’r gymuned ryngwladol” ac y byddan nhw’n “cymryd rhan lawn yn yr Undeb Ewropeaidd”.

Refferendwm arall?

 

Mae llwyddiant dilynol y Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol wedi gosod y llwyfan am refferendwm ar aelodaeth y DU o fewn yr  Undeb Ewropeaidd, ac os bydd pleidlais i adael Ewrop yn llwyddo, mae llawer yn credu y byddai hyn yn ysgogi refferendwm arall ar annibyniaeth i’r Alban.

 

Bydd arweinydd presennol yr SNP, Nicola Sturgeon yn amlinellu’r amgylchiadau am refferendwm ar annibyniaeth arall yn ei maniffesto ar gyfer etholiadau’r Alban yn 2016.

Rhan o araith Alex Salmond

 

“Rydym yn Un genedl. Un Alban. Dewch i ni lunio’r dyfodol gyda’n gilydd.

“Rhaid bod hyn yn ddechrau ar wleidyddiaeth newydd – yn gyfnod lle fydd lleisiau llawer yn cael eu clywed.

“I’n ffrindiau a’n teuluoedd ar hyd yr ynysoedd hyn sy’n deffro i’n democratiaeth newydd, dywedwn hyn; Byddwch yn ymwybodol, y bydd gennych eich ffrind agosaf, eich cynghreiriad mwyaf a’ch partner mwyaf cadarn yn yr Alban.

“Mae annibyniaeth yn ymwneud a chydraddoldeb a pharch ar y cyd. Bydd yr egwyddorion hyn yn diffinio ein perthynas newydd, amhosibl ei thorri.”