Byddai traean o etholwyr yn llai tebygol o bleidleisio dros yr SNP petai nhw’n addo cynnal refferendwm arall ar annibyniaeth yn eu maniffesto nesaf, yn ôl pôl piniwn newydd.

Ond fe fyddai bron yr un canran (31%) yn fwy tebygol o gefnogi’r blaid petai nhw’n addo ail refferendwm yn ystod ymgyrch etholiad Senedd yr Alban y flwyddyn nesaf, gyda 36% yn dweud na fyddai’n gwneud gwahaniaeth.

Mae barn yr Albanwyr yn dal i fod wedi’i hollti pan mae’n dod at y cwestiwn ei hun hefyd, gyda 51% yn dweud y bydden nhw’n pleidleisio ‘Na’ i annibyniaeth a 49% yn bwriadu pleidleisio ‘Ie’.

Daw’r arolwg gan Survation ar ôl i Brif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon gyhoeddi y bydd maniffesto’r SNP yn 2016 yn cynnwys amserlen posib ar gyfer ail refferendwm.

Amgylchiadau ‘priodol’

Yn ôl Nicola Sturgeon, fe fyddai ei phlaid hi yn awyddus i gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth petai’r amgylchiadau yn “briodol”.

Yn y refferendwm ychydig llai na blwyddyn yn ôl fe bleidleisiodd Albanwyr o 55% i 45% o blaid aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig, ond mae’r bwlch yn y polau piniwn wedi cau fymryn ers hynny.

Dangosodd y pôl hefyd bod dros hanner (51%) o Albanwyr o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Roedd 53% yn bwriadu pleidleisio dros yr SNP yn etholiadau Senedd yr Alban y flwyddyn nesaf, gyda 22% yn cefnogi Llafur, 14% yn cefnogi’r Ceidwadwyr, 6% am bleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol, a 5% yn dewis plaid arall.

Dywedodd 67% o bobl fod Nicola Sturgeon yn gwneud gwaith da fel Prif Weinidog, gyda 28% yn dweud nad oedd hi’n gwneud cystal.