Mae Albanwyr ar y cyfan yn parhau’n sinigaidd am annibyniaeth i’r wlad, ond mae’r rhan fwyaf yn dweud ei bod yn anochel erbyn 2045, yn ôl arolwg newydd.

47% o bobol sydd o blaid annibyniaeth ar hyn o bryd, yn ôl yr arolwg gan Panelbase ar gyfer papur newydd y Sunday Times.

Mae hynny ychydig yn uwch na’r 45% a bleidleisiodd yn y refferendwm y llynedd.

Mae arolygon eraill yn ddiweddar wedi awgrymu bod rhwng 48% a 53% o blaid annibyniaeth.

Dywedodd dau draean o bobol a gafodd eu holi gan Panelbase fod annibyniaeth o fewn 30 o flynyddoedd yn anochel.

Dywedodd 31% y gallai ddigwydd o fewn pump i 10 mlynedd.

Roedd 24% o’r farn y gallai digwydd o fewn 10 i 15 mlynedd, tra bod 12% yn credu y gallai ddigwydd ymhen 20 i 30 o flynyddoedd.

Ond dywedodd 45% y byddai’r Alban yn dioddef yn ariannol pe bai’n ennill annibyniaeth – dim ond 36% sy’n credu y byddai Albanwyr yn well eu byd.

Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon wedi addo amlinellu’r amgylchiadau a allai arwain at awdurdodi ail refferendwm annibyniaeth pan fydd maniffesto’r SNP yn cael ei gyhoeddi’r flwyddyn nesaf.

Yn ôl rhai o aelodau seneddol mwyaf blaenllaw’r SNP, fe allai ail refferendwm gael ei drefnu yn sgil Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn erbyn ewyllys yr Alban, methiant San Steffan i drafod rhagor o bwerau, pleidlais i adnewyddu Trident, parhad y polisi llymder a phenderfynu mynd i ryfel yn Syria.