Mae Plaid Unoliaethwyr Ulster wedi dweud y byddan nhw’n cymryd rhan mewn trafodaethau tros bŵer yn Stormont wedi’r cyfan.

Roedd amheuon a fydden nhw’n barod i gymryd rhan yn dilyn ffrae tros lofruddiaeth cyn-aelod o’r IRA, Kevin McGuigan.

Roedden nhw wedi beirniadu pwyllgor gwaith Stormont am beidio rhoi’r mater ar frig agenda’r trafodaethau.

Mae’r llywodraeth glymblaid mewn perygl o chwalu yn sgil y ffrae wedi i’r Unoliaethwyr Democrataidd dynnu’r rhan fwyaf o’i gweinidogion allan o’r weinyddiaeth.

Fe fydd y trafodaethau yn dechrau o’r newydd o dan arweiniad yr Ysgrifennydd Gwladol Theresa Villiers yfory.

Mae’r heddlu wedi dweud bod aelodau presennol yr IRA ynghlwm wrth lofruddiaeth Kevin McGuigan fis diwethaf, a hynny wrth ymateb i lofruddiaeth Gerard ‘Jock’ Davison yn Belfast dri mis yn ôl.

Mae pwysau bellach ar Sinn Fein i egluro pam fo’r mudiad yn bodoli o hyd, er eu bod yn mynnu bod y mudiad eisoes wedi dod i ben.