Nicola Sturgeon
Bydd Prif Weinidog yr Alban yn datgelu heddiw sut y bydd yn defnyddio’r pwerau newydd sy’n dod i Senedd Holyrood yn sgil y datganoli diweddaraf.

Wrth i Aelodau Seneddol yr Alban ddod yn ôl i Holyrood ar ôl toriad yr haf, bydd Nicola Sturgeon yn cyhoeddi ei rhaglen ddeddfu ar gyfer y flwyddyn nesa’  a’i rhaglen ar gyfer gweithredu grymoedd newydd.

“Mae ein gweledigaeth ar gyfer y degawd nesaf yn cynnwys sut y byddwn yn defnyddio’r pwerau cyfyngedig sy’n cael eu cynnig ym Mesur yr Alban yn greadigol ac yn uchelgeisiol,” meddai.

Pwerau newydd

Bydd Mesur yr Alban, sy’n cael ei ystyried gan Aelodau San Steffan ar hyn o bryd yn rhoi pwerau newydd i Aelodau Seneddol yr Alban, gan gynnwys rheolaeth dros gyfraddau a throthwyon treth incwm, tros Doll Teithwyr Awyr a thros rai budd-daliadau.

“O ran diogelwch cymdeithasol, cyflogaeth, y rhaglen waith, Ystâd y Goron a threthiant, bydd Llywodraeth yr Alban yn gosod cynlluniau clir dros y flwyddyn nesa’ i ddefnyddio’r holl bwerau sydd ar gael i ni er mwyn gwella bywydau unigolion, cymunedau a busnesau ledled yr Alban,” meddai Nicola Sturgeon.

Llafur yn herio’r SNP

Yn y cyfamser, mae Kezia Dugdale, arweinydd newydd y Blaid Lafur yn yr Alban wedi herio Nicola Sturgeon tros ddiffyg tegwch ym myd addysg yn yr Alban.

“Y Prif Weinidog yw’r fenyw fwyaf pwerus yng ngwleidyddiaeth Prydain heddiw, mae’n bryd iddi ddechrau defnyddio’r pŵer hwnnw i adeiladu cenedl decach,” meddai.

“Mae gyda ni fwlch o 12% mewn cyrhaeddiad darllen rhwng y cyfoethog a’r tlawd, bwlch o 21% mewn ysgrifennu a bwlch o 24% mewn rhifedd. Mae bron i hanner y plant tlota’n gadael yr ysgol gynradd heb allu ysgrifennu na chyfri’n iawn.”

Hapus i gydweithio â Corbyn

Wrth gael ei holi, fe wnaeth Kezia Dugdale yn glir y byddai’n fodlon cydweithio gyda’r ymgeisydd asgell chwith, Jeremy Corbyn, pe bai’n dod yn arweinydd y Blaid Lafur Brydeinig.

“Byddwn yn falch iawn o gael gweithio gyda Jeremy Corbyn, fel y byddwn yn falch iawn o gael gweithio gydag unrhyw un o’r ymgeiswyr eraill,” meddai.