Nigel Farage
Mae arweinydd UKIP, Nigel Farage, wedi cyhoeddi y bydd y blaid yn lansio ymgyrch ei hun ddydd Gwener i gefnogi’r bleidlais ‘Na’ yn y refferendwm dros aelodaeth Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae dwy ymgyrch ‘Na’ yn bodoli’n barod, sef ymgyrch ‘No’ a sefydlwyd yn San Steffan a’r grŵp ‘Know’ a lansiwyd gan Arron Banks, un o noddwyr mwyaf UKIP, a ffigurau busnes eraill.

Ond, bydd yr ymgyrch sy’n cael ei lansio’r wythnos hon gan UKIP, yn gweithredu ar wahân i’r ymgyrchoedd ‘Na’ sy’n bodoli’n barod.

Bydd refferendwm dros aelodaeth Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei gynnal ryw ben cyn diwedd 2017.

‘Barod i gydweithio’

“Dydw i ddim yn gwrthod gweithio â neb”, meddai Nigel Farage, a dywedodd ei fod yn “barod i gydweithio ag unrhyw un i sicrhau’r bleidlais Na yn y refferendwm”.

Gobeithiai hefyd y byddai’r grwpiau ‘Na’ eraill yn ymuno â’i gilydd erbyn y byddai’r Comisiwn Etholiadol yn penderfynu ar yr ymgyrch swyddogol.

Esboniodd y byddai hynny’n golygu mwy o grantiau darlledu ac arian i wario ar hyrwyddo yn ystod y cyfnod ymgyrchu.

Ond, mae dirprwy gadeirydd UKIP, Suzanne Evans, wedi’i feirniadu am fod yn rhy “ymrannol” i arwain yr ymgyrch ‘Na’ swyddogol.

Serch hynny, roedd Nigel Farage yn hyderus y gallai pobol sydd wedi pleidleisio dros UKIP yn y gorffennol gyfrannu at 60% o’r bleidlais ‘Na’.

‘Mewnfudo’

Fe wnaeth Nigel Farage gadarnhau mai mewnfudo byddai prif ffocws yr ymgyrch.

Awgrymodd y dylai Prydain ddilyn esiampl Awstria wrth dynhau’r gwiriadau mewnfudo ar ffiniau gwledydd i atal mewnfudwyr anghyfreithlon rhag cyrraedd y wlad.

“Faint o filiynau o bobol y mae Ewrop am ei gael?” Dyna’r gwir gwestiwn”, meddai Nigel Farage wrth ategu fod yr UE wedi datgan y bydd unrhyw un sy’n croesi Môr y Canoldir neu’n dod drwy Dwrci yn cael eu derbyn yng ngwledydd yr UE.

“Mae hynna’n rhoi neges i gannoedd ar filoedd o bobol y gallan hwythau ddod draw,” ychwanegodd.

“Ry’n ni wedi colli’n dealltwriaeth ar beth yw gwir ffoadur,” mynegodd wrth esbonio fod polisi ffoaduriaid yr UE yn cynnwys pobol o wledydd lle mae rhyfel a thlodi yn effeithio’n drwm arnynt.

Roedd yn cydnabod y dylai Prydain gynnig lloches i ffoaduriaid o Syria, ond dywedodd nad oes modd “gadael y drws ar agor” i fewnfudwyr anghyfreithlon.

“Rhaid inni dderbyn fod croesi ffiniau yn mynd i ddod yn fwyfwy anodd os ydyn ni o ddifrif am ddelio â mewnfudo anghyfreithlon,” meddai.