Mae cyn-Brif Weinidog Prydain, Tony Blair wedi apelio unwaith eto ar aelodau’r Blaid Lafur i beidio pleidleisio dros Jeremy Corbyn.

Dywed Blair y byddai Corbyn, y ffefryn yn y ras am arweinyddiaeth ei blaid, yn troi ei blaid yn un na fyddai modd pleidleisio drosti mewn etholiad cyffredinol.

Ond mae Blair yn cyfaddef mai yn ofer fu ei ymdrechion blaenorol i ddarbwyllo etholwyr i bleidleisio dros un o’r ymgeiswyr eraill – Andy Burnham, Yvette Cooper neu Liz Kendall.

Mewn erthygl ym mhapur newydd yr Observer, dywedodd Blair fod apêl ganddo fe, Neil Kinnock a Gordon Brown yn ymddangos fel pe baen nhw wedi cryfhau dyhead y cyhoedd i ethol Corbyn fel olynydd i Ed Miliband.

Dywedodd nad yw’n deall “grym” yr ymgeisydd, a bod ei gefnogwyr yn dilyn “gwleidyddiaeth o realaeth baralel”.

Eisoes yn ystod y ras am yr arweinyddiaeth, mae Blair wedi dweud y dylai pobol y mae eu calonnau gyda Corbyn “gael trawsblaniad”.

Rhybuddiodd Blair fod y Blaid Lafur wedi colli’r etholiad cyffredinol eleni am ei bod yn “wrth-fusnes ac yn rhy bell i’r chwith” heb fod ganddi gynllun economaidd credadwy.

Yn ei erthygl, dywedodd Blair: “Mae gan Neil Kinnock, Gordon Brown a finnau 150 o flynyddoedd o aelodaeth o’r Blaid Lafur rhyngom ni.

“Ry’n ni’n wahanol iawn. Ry’n ni’n anghytuno ynghylch amryw bethau. Ond rydym yn gytûn ynghylch hyn.

“Unrhyw un yn gwrando? Na. Yn wir, i’r gwrthwyneb. Mae’n eu gwneud nhw’n fwy tebygol o’i gefnogi mewn gwirionedd.”

Cymharodd boblogrwydd Jeremy Corbyn gyda chefnogaeth i’r SNP yn yr Alban, i’r Front National o dan Jean-Marie Le Pen yn Ffrainc ac i Donald Trump a Bernie Sanders fel ymgeiswyr ar gyfer Arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau.

Bydd enw’r arweinydd newydd yn cael ei gyhoeddi ar Fedi 12.