Peter Hain
Mae Downing Street wedi cyhoeddi  rhestr o 45 o Arglwyddi newydd, gan gynnwys cyn AS Castell Nedd a’r cyn0weinidog Cabinet, Peter Hain.

Ond mae David Cameron yn wynebu cyhuddiadau o roi anrhydeddau i’w gyfeillion wedi iddo gyhoeddi dwsinau o Arglwyddi Torïaidd newydd, gan gynnwys cyn-weinidogion a chynghorwyr, ar y rhestr.

Cyhoeddodd Downing Street 26 o enwau a enwebwyd gan y Prif Weinidog, gydag 11 enw yn cael eu cynnig  gan y Democratiaid Rhyddfrydol ac wyth gan y Blaid Lafur – cyfanswm o 45.

Mae’r Arglwyddi newydd yn cynnwys y cyn-Ysgrifennydd Tramor William Hague yn ogystal â chyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Ming Campbell a chyn-Ganghellor Llafur ac arweinydd yr ymgyrch ‘Na’ yn refferendwm annibyniaeth Yr Alban y llynedd, Alistair Darling.

Mae’r penodiadau yn golygu bod dros 800 o aelodau yn Nhŷ’r Arglwyddi erbyn hyn.