Jeremy Corbyn
Mae arweinydd un o brif undebau llafur gwledydd Prydain, y PCS wedi beirniadu’r Blaid Lafur ar ôl i’w bleidlais dros Jeremy Corbyn yn y ras am arweinyddiaeth y blaid gael ei gwrthod.

Dywedodd y Blaid Lafur wrth Mark Serwotka nad oedden nhw’n credu ei fod yn rhannu gwerthoedd y blaid.

Fe gofrestrodd i bleidleisio drwy undeb GMB, ond cafodd wybod nad oedd ei bleidlais yn ddilys.

‘Rhyfeddol’ 

Dywedodd: “Mae’n rhyfeddol cael clywed na allwch chi bleidleisio gan nad ydych chi’n rhannu gwerthoedd Llafur, pan nad oes unrhyw un (o’r blaid) wedi siarad gyda fi.

“Fe wnes i bleidleisio’n union oherwydd fy mod i’n rhannu nodau a gwerthoedd Jeremy Corbyn ynghylch gwrth-lymder, cydraddoldeb, cymdeithas deg ac undebau llafur cryf.

“Dyna’r negeseuon dw i am bleidleisio’n gryf o’u plaid. Dw i wedi meddwl ers peth amser fod angen dulliau newydd o wleidydda ym Mhrydain yn hytrach na’r un hen beth, a dyna mae Jeremy Corbyn yn ei gynnig.”

Ychwanegodd Serwotka ei fod yn gobeithio na fyddai’r helynt sydd wedi effeithio ar gymaint o wir aelodau’r blaid yn eu troi oddi wrth bleidleisio.

Dydy undeb y PCS, sy’n cynrychioli gweision sifil, ddim wedi gwneud sylw am y mater.

Daeth i’r amlwg fod llai nag 1% o bobol wedi cael eu hatal rhag pleidleisio oherwydd pryderon nad ydyn nhw’n wir gefnogwyr y blaid.