Iain Duncan Smith
Fe fydd Iain Duncan Smith yn cyhoeddi fod “gwaith yn dda i’r iechyd”, ac y gallai helpu pobl i wella o salwch, wrth iddo amlinellu ei gynlluniau ar gyfer rhagor o ddiwygiadau i fudd-daliadau lles.
Yn ôl yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, mae angen diwygio asesiadau budd-daliadau salwch er mwyn cael rhagor o bobl i ddychwelyd i’r gwaith.
Mae’n awgrymu fod gormod o bobl gyda salwch meddwl “cyffredinol” yn ddibynnol ar fudd-daliadau, pan y gallen nhw fod yn ennill cyflog.
Mae Iain Duncan Smith eisoes wedi cyflwyno nifer o fesurau sy’n ddadleuol er mwyn diwygio’r wladwriaeth les.
Mewn araith, mae disgwyl iddo ddweud: “Mae yna un maes lle nad ydym wedi canolbwyntio arno ddigon a hynny yw – sut mae gwaith yn dda i’r iechyd.”
Ychwanegodd fod gwaith yn allweddol i sicrhau gwellhad: “Mae gwaith yn gallu helpu i gadw pobl yn iach ynghyd â chynorthwyo i hyrwyddo gwellhad os ydynt yn mynd yn sâl.”