Martin McGuinness - ar yr un llwyfan
Fe wnaeth Prif gwnstabl Gogledd Iwerddon bwysleisio’r angen am ddewrder a gwroldeb i ddelio gyda hanes cythryblus Gogledd Iwerddon, wrth iddo fynd ar ymweliad hanesydddol i ardal weriniaethol yn Belffast neithiwr.

Fe ymunodd y prif gwnstabl George Hamilton gyda Martin McGuinness o Sinn Fein mewn panel yn trafod y trafferthion yn y dalaith.

Mae’n cael ei weld fel digwyddiad arwyddocaol gyda phrif heddwas y dalaith yn rhannu’r un llwyfan gydag un o gyn arweinyddion corff brawychol yr IRA yn ardal weriniaethol gorllewin Belfast.

Holi caled

Fe gafodd y Prif Gwnstabl ei holi’n galed gan berthnasau pobol a fu farw yn y rhyfel a hynny am gynllwynio rhwng yr heddlu ac Unoliaethwyr.

“Dw i wedi dod achos dw i’n credu fod y mwyafrif yn ein cymdeithas eisiau dyfodol gwell i’r genhedlaeth nesaf, i fy mhlant a’ch plant chithau,” meddai George Hamilton.

“Dyw ofn ddim yn creu heddwch – a dim ond trwy ddewrder, optimistiaeth, cred y gellwch chi greu heddwch”