A hithau’n tynnu tuag at ddiwedd dydd Mercher yr Eisteddfod, mae’n bryd unwaith eto am bodlediad dyddiol Golwg360 o’r maes ym Meifod.

Yn ymuno â ni heddiw, gan roi naws gwleidyddol i’r pod, mae’r academydd Richard Wyn Jones o Brifysgol Caerdydd, a chyn-Aelod Seneddol Plaid Cymru, Elfyn Llwyd.

Mewn sgwrs ar y maes heddiw fe fu Richard Wyn Jones a Roger Scully yn dadansoddi rhai o ystadegau etholiad cyffredinol 2015, ac mae’r ddau westai ar y pod yn trafod y newid yn y tirwedd gwleidyddol ers hynny.

Fyddai gan Elfyn Llwyd le yng nghabinet Jeremy Corbyn? Pa blaid mae Richard Wyn Jones yn disgwyl fydd yn cecru ar ôl etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf? A phwy fu mewn parti pen-blwydd 90 heddiw?