Roedd ymgyrch y  Ceidwadwyr yng Nghymru wedi bod yn “effeithiol iawn” yn ystod etholiad cyffredinol 2015, yn ôl academydd sydd yn arbenigo ar etholiadau.

Ar faes yr Eisteddfod heddiw bu Roger Scully a Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn dadansoddi canlyniadau’r bleidlais a chyflwyno data manwl o Astudiaeth Etholiadol Prydain.

Yn ôl yr Athro Roger Scully roedd y Ceidwadwyr wedi ymgyrchu’n llawer mwy effeithiol mewn seddi ble roedd ganddyn nhw obaith o ennill na’r blaid Lafur yng Nghymru.

Ychwanegodd fod un o bob pedwar person wedi pleidleisio dros blaid oedd ddim yn un o’r ‘tri mawr’ traddodiadol, gyda phleidiau llai megis Plaid Cymru, UKIP a’r Gwyrddion yn denu cefnogaeth.

UKIP yn cryfhau

Yn ôl Roger Scully mae’n debygol iawn y bydd gan UKIP “o leiaf un sedd rhanbarth” yn ne Ddwyrain Cymru ar ôl etholiadau’r Cynulliad yn 2016 ar ôl perfformio’n gryf yno ym mis Mai.

Nododd yr academydd hefyd fod pleidiau gwahanol wedi dod i’r brig ym mhob un o bedair cenedl y Deyrnas Unedig.

“Dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd mewn hanes,” meddai Roger Scully.