Leanne Wood
Mae toriadau i S4C yn tanseilio diwydiannau creadigol a darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Dyna ei neges wrth annerch cynulleidfa ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod.

Daw’r anerchiad ar ôl i Gyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies bwysleisio’r achos dros fuddsoddi arian cyhoeddus i gefnogi darlledu cyfrwng Cymraeg.

Dywedodd Rhodri Talfan Davies cyn trafodaeth panel ar stondin Prifysgol Caerdydd: “Nid yw darlledu cyfrwng Cymraeg ar draws y radio, y teledu a’r rhyngrwyd erioed wedi bod mor bwysig.

“Ac nid yw’r achos ar gyfer buddsoddi arian cyhoeddus i’w gefnogi, erioed wedi bod mor glir.”

‘Methu cyflawni swyddogaeth heb arian’

Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood yn rhybuddio y byddai toriadau gan Lywodraeth Prydain yn ei gwneud hi’n amhosib i S4C adlewyrchu’r diwylliant Cymraeg yn llawn.

Dywedodd Leanne Wood: “Dyma ni yn yr Eisteddfod, yr enghraifft orau o ddiwylliant byw, Cymraeg.

“Os bydd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn parhau gyda thoriadau i gyllideb S4C, yna fe fydd yn amhosib i’r sianel adlewyrchu cynnwrf a bywiogrwydd y diwylliant Cymraeg a welwn o’n hamgylch yma, neu yn wir, bywyd Cymreig yn gyffredinol.

“Mae pobol ar hyd Cymru’n gwerthfawrogi ansawdd yr arlwy a gaiff ei ddarparu gan S4C ar hyn o bryd – mae’r nifer o wobrau a enillwyd gan ei rhaglenni yn brawf pendant o hyn.

“Heb ariannu digonol, ni fydd S4C yn gallu cyflawni ei swyddogaeth fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus sydd yn adlewyrchu bywiogrwydd ac amrywiaeth bywyd yng Nghymru.

“Byddai’n annerbyniol pe bai darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y Gymraeg yn is o ran statws a safon na’r hyn a ddarperir yn Saesneg.

“Torrwyd cyllideb S4C yn llym gan Lywodraeth Clymblaid y DG yn 2010 a bydd rhagor o doriadau yn golygu llai o raglenni, ansawdd is a mwy o ailadroddiadau ac fe allai hynny effeithio ar ddyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus ac fe allai hynny effeithio ar niferoedd gwylio.

“Allwn ni ddim caniatáu i hyn ddigwydd.”

‘Busnesau yn y sector yn cael eu tanseilio’

Ychwanegodd: “Mae Ofcom eisoes wedi cydnabod fod yna brinder plwraliaeth yn y cyfryngau yng Nghymru, ac yn wyneb hyn, mae’n hanfodol bod dyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus ar y teledu yn y ddwy iaith yn cael ei warchod, a rhaid rhoi sicrwydd o ran annibyniaeth ac ariannu digonol i S4C.

“O fewn economi Cymru, mae hanes S4C wedi bod yn un o wir lwyddiant. Mae sector y  diwydiannau creadigol a chynhyrchwyr annibynnol yn cyflogi cannoedd os nad miloedd o bobl drwy Gymru gyfan – ond bydd y busnesau sydd yn gweithio fewn y sector yn cael eu tanseilio ymhellach gan doriadau cyllido pellach i S4C.

“Enghraifft berffaith yw hon o’r hyn sydd yn digwydd pan fod darlledu yng Nghymru yn cael ei adael yn nwylo Llundain. Dymuna Plaid Cymru weld pwerau a chyfrifoldeb am ddarlledu yn cael ei ddatganoli i Gymru.”