Uno’r genedl yw’r gyfrinach i lwyddiant Plaid Cymru yn y dyfodol, yn ôl Cynog Dafis.

Ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales, dywedodd y cyn-Aelod Seneddol dros Geredigion (1992-2000) a’r cyn-Aelod Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru (1999-2003) fod disodli’r Blaid Lafur yn y Cynulliad yn “dasg uchelgeisiol” ond y gellir cyflawni’r uchelgais hwnnw.

Roedd Cynog Dafis yn gyfarwyddwr polisi’r Blaid o 1997 i 2003.

Roedd yn cael ei gyfweld ar raglen arbennig i nodi 90 mlynedd ers sefydlu Plaid Cymru.

Ychwanegodd fod y “cysyniad o Gymru fel cenedl” yn allweddol i weledigaeth y Blaid.

“Nid oedd y cysyniad o Gymru fel cenedl wleidyddol, ddemocrataidd gyda’i sefydliadau ei hun, ac yn arbennig gyda’i chynulliad etholedig democrataidd ei hun, ddim o fewn golwg unrhyw un bryd hynny ac eithrio Plaid Cymru.”