Mae disgwyl i fesurau diogelwch newydd gael eu cyflwyno mewn ymgais i fynd i’r afael â’r argyfwng ymfudo ger Twnel y Sianel.

Mae’r mesurau’n cynnwys lleoli rhagor o swyddogion diogelwch a heddlu ger y ffin, codi ffensys ychwanegol a gosod rhagor o gamerâu cylch-cyfyng.

Cafodd y mesurau eu cytuno yn dilyn sgwrs ffôn rhwng Prif Weinidog Prydain, David Cameron ac Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande ddydd Gwener.

Ond mae pryder y gallai’r oedi i deithwyr barhau drwy gydol yr haf.

Mae’r Blaid Lafur wedi cyhuddo David Cameron o oedi cyn ymateb i’r argyfwng yn Calais, lle mae o leiaf 5,000 o ymfudwyr yn ceisio dod o hyd i ffordd o groesi’r ffin i Loegr.

Mae arweinydd dros dro’r Blaid Lafur, Harriet Harman wedi annog David Cameron i fynnu iawndal i fusnesau a theithwyr sydd wedi cael eu heffeithio.

Dywedodd Harman y dylai Cameron fod wedi rhoi mwy o bwysau ar awdurdodau Ffrainc i ddatrys y sefyllfa.

Ond dywedodd llefarydd ar ran Stryd Downing na fyddai “chwarae’r gêm o feio yn cynnig ateb i unrhyw un”.

Mae traffordd M20 wedi ail-agor i gerbydau erbyn hyn ar ôl i lorïau gael eu harchwilio gan yr heddlu fel rhan o Ymchwiliad Stack sy’n chwilio am ymfudwyr anghyfreithlon.

Mae pryder bod yr argyfwng yn costio £700,000 y dydd i fusnesau sy’n croesi’r Sianel.

Mewn llythyr ym mhapur newydd y Sunday Telegraph, mae’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May ac Ysgrifennydd Cartref Ffrainc, Bernard Cazeneuve wedi galw ar wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd i weithredu yn sgil yr argyfwng.