Nicola Sturgeon
Mae papur newydd yn yr Alban yn adrodd fel y mae arweinydd plaid yr SNP wedi cyhoeddi “rhybudd” i David Cameron ac unoliaethwyr eraill tros geisio rhwystro cynnal refferendwm arall ar annibyniaeth.

Yn ôl erthygl yn The Scotsman heddiw, mae Nicola Sturgeon wedi bod dan bwysau gan garfan sydd am ei chael i gomitio i fynnu refferendwm arall, ac i osod hynny i lawr ym maniffesto ei phlaid gogyfer ag Etholiadau Senedd Holyrood ym mis Mai y flwyddyn nesa’.

Ond mae David Cameron wedi gwrthod yn blaen ag ymrwymo i addo dim byd o’r fath.

Dyna pam, wrth annerch cinio’r Hong Kong Foreign Correspondents’ Club fore ddoe, y gwnaeth Nicola Sturgeon ei sylwadau rhybuddgar newydd.  

“Mae’r ateb yn syml – fe fydd refferendwm os, a phryd bynnag, y bydd pobol yr Alban yn penderfynu ar hynny… Ni fedr yr un gwleidydd wthio refferendwm arall ar yr Alban, dim ots faint y byddai rhai ohonon ni’n hoffi gweld y wlad yn un annibynnol.

“Ac mae’n werth pwyntio allan hefyd fod y gwrthwyneb yn wir,” meddai Nicola Sturgeon. Os ydi pobol yr Alban yn pleidleisio tros gael refferendwm arall yn y dyfodol, nid oes gan yr un gwleidydd yr hawl i sefyll yn eu ffordd.”