Nid yw hyd at un o bob saith gweithiwr yn cael y nifer o ddyddiau gwyliau tâl sydd yn ddyledus iddyn nhw, yn ôl astudiaeth newydd.
Yn ôl undeb y TUC nid yw bron i 1.7miliwn o bobl ar draws Prydain yn cael cymaint o ddyddiau gwyliau ag y dylen nhw, gyda “chyflogwyr drwg” yn torri’r gyfraith.
Cymru yw un o’r ardaloedd ble mae hynny’n digwydd fwyaf aml, gyda 7.6% o weithwyr ddim yn derbyn eu hawliau gwyliau llawn.
Mae’r canran hefyd yn llawer uwch mewn rhai diwydiannau, gyda gweithwyr yn y diwydiant celfyddydau ac adloniant (14%), bwyd a llety (12.5%), gweinyddwyr a gwasanaethau cynnal (9.2%) a’r gwaith adeiladu (8%) ymysg yr uchaf.
Ffioedd tribiwnlys
Yn ôl dadansoddiad o ffigyrau’r Arolwg Gweithlu sydd heb eu cyhoeddi eto nid yw cyfartaledd o 6.4% o bobl ar draws Prydain yn cael cymaint o wyliau ag sydd yn ddyledus iddyn nhw.
Gogledd Iwerddon sydd â’r ffigwr uchaf (9.5%), gyda Chymru’n ail ar 7.6% a Llundain hefyd yn uchel ar 7.5%. Gogledd Ddwyrain Lloegr (5.1%) a’r Alban (5.2%) oedd â’r ffigyrau isaf.
Ac yn ôl y TUC, mae’r broblem wedi cynyddu ers i ffioedd gael eu cyflwyno ar gyfer mynd ag achosion i dribiwnlys cyflogaeth.
“Tra bod rhai pobl yn mynd ar eu gwyliau ar hyn o bryd, mae’n bryd meddwl am y rheiny sydd yn styc yn y gwaith gyda phenaethiaid gwael sydd yn torri’r gyfraith wrth beidio â rhoi gwyliau llawn i’w staff,” meddai ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, Frances O’Grady.
“Mae rhai cyflogwyr yn atal staff yn fwriadol rhag cymryd y cyfnodau i ffwrdd a thâl gwyliau sydd yn ddyledus iddyn nhw, tra bod eraill yn colli allan o reolaeth wael a’u methiant nhw i ddilyn y gyfraith.”
Pryder am refferendwm Ewrop
Yn ôl ysgrifennydd cyffredinol y TUC, fe allai ymgais y Prif Weinidog David Cameron i ail-drafod perthynas Prydain ag Ewrop cyn refferendwm ar ei haelodaeth wneud y sefyllfa’n waeth.
“Ni ddylai gweithwyr gael eu twyllo gyda’u gwyliau drwy arferion anghyfreithlon ac annheg gan gyflogwyr,” ychwanegodd Frances O’Grady.
“Rydyn ni’n poeni y gallai ail-drafod UE David Cameron fynd a hawliau gwyliau statudol i ffwrdd wrth dynnu nôl o’r cyfarwyddyd amseroedd gweithio.
“Mae’r ffigyrau am nifer y bobl sydd yn colli eu hawliau gwyliau yn dangos bod angen cryfhau yn hytrach na gwanhau’r rheolau.”