David Cameron
Yr “haid” o ymfudwyr sy’n ceisio croesi Mor y Canoldir sydd wedi arwain at yr argyfwng yn Calais, meddai David Cameron wrth iddo fynnu na fydd y DU yn “lloches ddiogel” i ymfudwyr anghyfreithlon.

Er gwaetha ymdrechion gan ymfudwyr i groesi’r Sianel, mae’r Prif Weinidog wedi mynnu bod y ffin yn ddiogel.

Ond dywedodd ei fod yn deall rhwystredigaeth teithwyr a bod yr awdurdodau yn gwneud popeth posib i sicrhau bod pobl yn cael “gwyliau diogel.”

Wrth siarad yn ystod ei daith a de ddwyrain Asia, dywedodd David Cameron bod Llywodraeth Ffrainc wedi anfon 120 o swyddogion ychwanegol i’r safle a bod y DU yn buddsoddi mewn ffensys a mesurau diogelwch yn Calais a Coquelles.

Dywedodd wrth ITV bod y sefyllfa yn “anodd iawn”:

“Mae gennych chi haid o bobl yn croesi Mor y Canoldir, yn ceisio bywyd gwell, sydd eisiau dod i Brydain am fod swyddi yno, mae’r economi’n tyfu ac mae’n le anhygoel i fyw.

“Ond mae’n rhaid i ni ddiogelu ein ffiniau drwy gydweithio gyda Ffrainc a dyna’n union rydym yn ei wneud.”

Ychwanegodd: “Ond mae’n rhaid i ni wneud mwy, ac rydym yn pasio deddfwriaeth i wneud mwy, i wneud Prydain yn le nad yw’n hawdd i ymfudwyr anghyfreithlon aros.”

A dywedodd wrth y BBC: “Fe fyddwn yn symud ymfudwyr anghyfreithlon o’n gwlad fel bod pobl yn gwybod nad yw’n lloches ddiogel pan maen nhw yno.”

‘Gwarthus’

Mae Andy Burnham, un o’r ymgeiswyr am arweinyddiaeth y Blaid Lafur wedi dweud beirniadu David Cameron am gyfeirio at yr ymfudwyr fel “haid”.

Dywedodd ar ei gyfrif Twitter bod sylwadau’r Prif Weinidog yn “warthus”.

Mae arweinydd Ukip, Nigel Farage hefyd wedi ymbellhau ei hun  oddi wrth sylwadau David Cameron gan ddweud bod y Prif Weinidog yn ceisio ymddangos fel ei fod yn rhoi ymateb “cadarn” i’r argyfwng.

Mae’r Cyngor Ffoaduriaid hefyd wedi beirniadu’r disgrifiad gan ddweud ei fod “yn iaith ofnadwy ac anghyfrifol gan arweinydd” ac y dylai fod yn ceisio canolbwyntio ar ddatrys yr “argyfwng dyngarol.”