Mae ymgyrchwyr wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu er mwyn mynd i’r afael ag asbestos mewn ysgolion.

Roedd y defnydd o asbestos yn gyffredin yn y diwydiant adeiladu yn y 1960au a’r 1970au.

Ond ddiwedd y ganrif, fe ddaeth y peryglon i’r amlwg ac fe gafodd ei wahardd yn y 1990au.

Ystadegau

 

Rhwng 2003 a 2012, fe fu 224 o bobol yn y byd addysg farw o fesothelioma a gafodd ei achosi gan asbestos.

Yn ôl ymchwil gan raglen ‘Week In, Week Out’ BBC Cymru, roedd asbestos yn bresennol mewn 1,514 – neu 85% – o ysgolion yng Nghymru.

 

Ond dydy hi ddim yn glir faint o bobol sy’n dioddef o fesothelioma o ganlyniad i asbestos.

Dywed Llywodraeth Prydain fod plentyn pump oed sy’n agored i beryglon asbestos bum gwaith yn fwy tebygol o ddioddef o’r canser nag oedolyn 30 oed sy’n agored i asbestos am y tro cyntaf.

Ymgyrch

Mae’r cyfreithiwr Cenric Clement-Evans wedi galw am sefydlu tasglu i greu polisi Cymru gyfan i ddatrys y sefyllfa.

Dywedodd wrth raglen Post Cyntaf y BBC:  “Yn fy marn i, Llywodraeth Cymru [sy’n gyfrifol] ond ’di o’m ots, dim ond ei fod o’n cael ei ddatrys.”

“Dw i ddim yn gofyn am gael gwared arno fo, ond codi ymwybyddiaeth fel bod rhieni’n ymwybodol a bod o’n cael ei reoli.

“Os nad ydach chi’n gwybod lle mae’r asbestos, dydych chi ddim yn gwybod i roi llonydd iddo fo.

“Mae ‘na gefnogaeth gan y pwyllgor deisebau yn y Cynulliad a gan yr undebau.”

Ond mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod y mater yn dod o dan ymbarél iechyd a diogelwch – sydd heb ei ddatganoli.

Er hynny, mae Llywodraeth Cymru’n craffu ar adroddiad Adran Addysg San Steffan, ac mae disgwyl ymateb erbyn mis Awst, yn ôl Cenric Clement-Evans.