Mae aelodau o Bwyllgor Cynllunio Ynys Môn wedi gwrthod cymeradwyo cynllun dadleuol i adeiladu cannoedd o dai a phentrefi hamdden ger Caergybi, yn ystod cyfarfod a gynhaliwyd y prynhawn yma.

Maen nhw wedi gofyn am ohirio’r penderfyniad tan eu cyfarfod nesaf ym mis Medi, gan ofyn am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r cynllun.

Byddai’r gweithwyr fyddai’n adeiladu atomfa Wylfa Newydd yn Ynys Môn yn cael eu lleoli yn y tai a’r pentrefi hamdden hyn.

Ond, gan nad oes sicrwydd ynglŷn â datblygiad yr atomfa eto, nid oedd y pwyllgor yn awyddus i roi sêl bendith ar ddatblygiad y tai chwaith.

‘Angen rhagor o wybodaeth’

Fe wnaeth y Pwyllgor gytuno fod angen rhagor o wybodaeth cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol ar ddyfodol y cynllun.

Bwriad y cwmni Land & Lakes yw adeiladu pentrefi hamdden ym Mharc Glannau Penrhos, Parc Cybi a datblygiad preswyl yn Kingsland, Caergybi.

Mae bwriad i adeiladu hyd at 500 o fythynnod ym Mharc Glannau Penrhos, ar gyfer gweithwyr Wylfa Newydd ac ymwelwyr hefyd.

Ond, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn fod angen mynd “yn ôl at y cwmni i gynnal trafodaethau pellach”.

Nid oedd y cynghorwyr yn awyddus i fwrw ymlaen i gyflwyno caniatâd cynllunio i gwmni Land & Lakes tan y byddai’r cwmni pŵer niwclear, Horizon, yn cadarnhau datblygiad Wylfa Newydd hefyd.

“Mae’n rhaid i Land & Lakes ddod i gytundeb â Horizons”, meddai’r llefarydd.

Mae rhai o amodau’r cynllun yn cynnwys sicrhau cyfraniad ariannol tuag at wasanaethau lleol.

Mae’r rhain yn cynnwys darpariaethau addysg, gofal meddygol, hamdden, llyfrgell, heddlu, gwasanaethau brys, trafnidiaeth gyhoeddus, cyflogaeth leol, ac arwyddion Cymraeg.

Mae hefyd galw am dai fforddiadwy fel rhan o’r cynllun.

Pwnc llosg

Mae’r mater hwn wedi bod yn bwnc llosg ers bron i ddwy flynedd, ac mae gwrthwynebiad mawr wedi bod i’r cynllun gan ymgyrchwyr.

“Rydyn ni’n diolch i’r cynghorwyr sydd wedi gorfodi oedi rhag rhoi caniatâd i’r datblygiad”, meddai Toni Schiavone, llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Ni ddylai’r Cyngor Sir, sydd yn datgan eu bod o ddifrif am ddiogelu’r Gymraeg fel iaith hyfyw, ganiatáu i ddatblygiad fel hwn fynd yn ei flaen”, ychwanegodd wrth bryderu am effaith y mewnfudo ar sefyllfa’r iaith Gymraeg yn Ynys Môn.

Yn ogystal, mae safleoedd adeiladu’r tai a’r pentrefi hamdden wedi’u lleoli o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn (AHNE).

Byddai hynny’n mynd yn groes i’r “drefn gynllunio o ddiogelu ein hamgylchedd naturiol a hybu datblygu cynaliadwy”, meddai Toni Schiavone.

Bydd y Pwyllgor Cynllunio yn ymgynghori eto â chwmni Land & Lakes a chwmni Horizon cyn eu cyfarfod ym mis Medi.