Kirsty Williams
Dyw unig Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru heb gael ei enwi’n llefarydd mewn unrhyw faes gan arweinyddiaeth ei blaid yn San Steffan.

Mae hynny er bod 22 o lefarwyr wedi cael eu henwi gan y blaid, a bod Mark Williams yn un o wyth AS yn unig sydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn Nhŷ’r Cyffredin.

Dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol wrth Golwg360 bod Mark Williams wedi siarad ag arweinydd y blaid, Tim Farron, cyn y cyhoeddiad heddiw a bod perthynas dda rhyngddynt.

Ychwanegodd y llefarydd y bydd cadeiryddion gwahanol ymgyrchoedd yn cael eu penodi dros yr wythnosau nesaf, a bod Mark Williams yn debygol o gael rôl ymgyrchu yn ymwneud â chefn gwlad.

Kirsty Williams, yr Aelod Cynulliad sydd yn arwain y blaid ym Mae Caerdydd, sydd wedi cael portffolio’r llefarydd ar faterion Cymreig.

Nick Clegg yw’r unig un arall o ASau’r blaid sydd heb gael rôl swyddogol, a hynny am ei fod wedi dweud y byddai’n well ganddo fod ar y meinciau cefn.

Mwy o fenywod

Yn y tîm o 22 aelod gafodd eu henwi gan yr arweinydd Tim Farron mae 12 o fenywod a 10 o ddynion.

Mae’r llefarwyr hefyd yn cynnwys deg aelod o Dŷ’r Arglwyddi, dau aelod o gyrff datganoledig, dau o’u cyn-ASau gollodd eu seddi yn 2015, un maer ac un cynghorydd.

Y Farwnes Susan Kramer fydd llefarydd y blaid ar yr economi, gyda’r AS Tom Brake yn Brif Chwip ac yn gyfrifol am Faterion Tramor, a’r Farwnes Judith Jolly yn gyfrifol am amddiffyn.

Yr AS Norman Lamb, gafodd ei guro i’r arweinyddiaeth gan Tim Farron, fydd y llefarydd iechyd, gydag Alistair Carmichael AS yn gyfrifol am faterion cartref a John Pugh AS yn gyfrifol am Addysg.

Bydd y Farwnes Jenny Randerson, oedd yn Aelod Cynulliad dros Ganol Caerdydd rhwng 1999 a 2011, yn lefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar drafnidiaeth.

“Roedd hi’n bwysig i mi allu galw ar gyngor a phrofiad pobl ar bob lefel o’r blaid a dw i’n credu bod gennym ni dîm gwych i arwain brwydr y Democratiaid Rhyddfrydol,” meddai Tim Farron.

Mae Golwg360 wedi gofyn i Mark Williams am ei ymateb.

Llefarwyr y Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan:

Arweinydd: Tim Farron AS
Economi: Y Farwnes Susan Kramer
Materion Tramor / Prif Chwip / Arweinydd y tŷ: Tom Brake AS
Amddiffyn: Y Farwnes Judith Jolly
Materion Cartref: Alistair Carmichael AS
Iechyd: Norman Lamb AS
Addysg: John Pugh AS
Gwaith a Phensiynau: Y Farwnes Zahida Manzoor
Busnes: Lorely Burt
Ynni a Newid Hinsawdd: Lynne Featherstone
Llywodraeth Leol: Maer Watford, Cyng Dorothy Thornhill
Trafnidiaeth: Y Farwnes Jenny Randerson
Amgylchedd a Materion Gwledig: Y Farwnes Kate Parminter
Datblygu Rhyngwladol: Y Farwnes Lindsay Northover
Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon: Y Farwnes Jane Bonham-Carter
Cydraddoldeb: Y Farwnes Meral Hussein-Ece
Cyfiawnder / Twrnai Cyffredinol: Arglwydd Jonathan Marks
Gogledd Iwerddon: Arglwydd John Alderdice
Yr Alban: Willie Rennie MSP, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban
Cymru: Kirsty Williams AC, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Cadeirydd Ymgyrchoedd: Greg Mullholland AS
Ymgyrchoedd Llawr Gwlad: Cyng Tim Pickstone, Prif Weithredwr Cymdeithas Cynghorwyr y Democratiaid Rhyddfrydol