Mae hi’n anochel y bydd ail refferendwm annibyniaeth yn cael ei gynnal yn yr Alban, yn ôl cyn-Brif Weinidog y wlad, Alex Salmond.

Dywedodd Salmond wrth raglen Andrew Marr ar BBC 1 fod nifer o faterion pwysig – gan gynnwys methiant Llywodraeth Prydain i roi ymreolaeth i’r Alban, aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd a llymder – yn golygu bod galw am ail refferendwm.

Pleidleisiodd pobol yr Alban yn erbyn annibyniaeth yn y refferendwm cyntaf yn 2013.

Dywedodd fod yr Alban yn wynebu “llymder o’r mwyaf, nid datganoli o’r mwyaf”.

Dywedodd Aelod Seneddol yr SNP dros Gordon: “Dw i’n credu bod ail refferendwm yn anochel.

“Nid bod yn anochel yw’r cwestiwn, ond yr amseru ac mae hynny i raddau helaeth iawn yn nwylo Nicola Sturgeon.

“Yn hytrach na chael datganoli o’r mwyaf, ry’n ni’n cael llymder o’r mwyaf ac mae’r farn wahanol honno o’r hyn sy’n briodol yn nhermau cymdeithasol rhwng yr Alban a Lloegr yn fater arall sy’n symud pethau ymlaen tuag at refferendwm arall.”

Lloegr

Ychwanegodd y dylid sefydlu Senedd Loegr er mwyn gweithredu’r egwyddor o bleidleisiau Seisnig i faterion Seisnig.

“Pe baech chi’n ei gwneud yn gywir, fe fyddai gennych chi Senedd Loegr gan fod angen cymesuredd rhwng yr hyn sy’n digwydd yng Ngogledd Iwerddon, Cymru, yr Alban a Lloegr.

“Mae pedair gwlad yn yr ynysoedd hyn a phe baech chi’n derbyn gair y Prif Weinidog [David Cameron] a phe bai hon yn bartneriaeth hafal yna fe fyddai gan bob un o’r gwledydd hyn gydraddoldeb ac fe fyddai hynny’n golygu Senedd i Loegr.

“Dydy Senedd Loegr ddim yn golygu annibyniaeth. Fe allwch gael Senedd i Loegr o fewn ffederasiwn ac ymreolaeth.”