Rhaid i San Steffan benderfynu ai amgueddfa neu senedd ymarferol yw am fod, yn ôl ei Aelod Seneddol ieuengaf.

Dywed Mhairi Black, a gipiodd sedd Paisley a De Renfrewshire i’r SNP yn fyfyrwraig 20 oed ym mis Mai, fod rhai o draddodiadau’r senedd yn gwneud iddi deimlo’n rhwystredig.

Mae o’r farn fod y gwaharddiad ar guro dwylo yn y siambr yn hollol ddisynnwyr.

“Felly does dim hawl gennych i guro dwylo fel person normal, ond mae hawl gennych i udo fel mul?” meddai mewn cyfweliad yng nghylchgrawn y Times.

“Yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog, mae’r Torïaid yn enwedig a’r sŵn rhyfedd maen nhw’n ei wneud yn swnio fel criw o feddwon.”

Dywedodd hefyd fod y drefn o bleidleisio mewn lobi yn hytrach nag yn electronig yn perthyn i’r oes o’r blaen.

“Mae’n hurt,” meddai. “Bythefnos yn ôl, doeddwn i ddim yn ôl adref tan hanner awr wedi hanner nos oherwydd ein bod ni’n pleidleisio. Sut mae rhywun sydd â theulu i fod i weithio oriau fel hyn?”

Mae Mhairi Black wedi creu cryn argraff yn y senedd ers iddi guro’r gwleidydd Llafur blaenllaw Douglas Alexander yn yr etholiad cyffredinol a chafodd glod uchel am ei haraith gyntaf yno’n ddiweddar.

Mae’n casáu treulio amser yn y siambr, fodd bynnag:

“Dydych chi ond yn clywed pobl yn siarad cymaint o lol,” meddai.