Mae arweinydd newydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron wedi cyhuddo’r SNP o “awdurdodyddiaeth Orwellaidd, big brother bron iawn” wrth lywodraethu yn yr Alban.

Dywedodd Farron fod gwleidyddiaeth yn dylanwadu’n gryf ar heddlu gororau’r Alban, wrth ddatblygu cronfa ddata o unigolion a system adnabod wynebau ar gamerâu cylch cyfyng.

Wrth siarad ar raglen Andrew Marr ar BBC1, dywedodd Farron na fyddai ei blaid yn clymbleidio â’r Blaid Lafur, ac fe gyhuddodd y Ceidwadwyr o ganiatâu i’w haelodau “brynu etholiadau”.

Ychwanegodd y byddai diwygio etholiadol yn allweddol i unrhyw gytundeb i glymbleidio yn y dyfodol, ac y byddai’n hoffi gweld Nick Clegg yn dod yn aelod blaenllaw o’i gabinet cysgodol.

Dywedodd Tim Farron: “Mae’n bwysig ein bod ni, i’r de o’r ffin, yn deall beth yw cenedlaetholdeb.

“Mae’n hollol gywir, yn fy marn i, i dalu teyrnged i’r hyn sydd wedi bod yn fudiad cyffrous gyda’r SNP a’u llwyddiant yn yr etholiad.

“Mae’n bwysig peidio bod yn ffuantus tuag atyn nhw.

“Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi’r hyn y mae’r cenedlaetholwyr yn ei wneud fel llywodraeth.

Wrth esbonio’r hyn y gallai aelodau’r blaid ei ddisgwyl gan eu harweinydd newydd, ychwanegodd Tim Farron: “Gadewch i fi fod yn eglur – Rhyddfrydwr ydw i, dw i’n llwyr gefnogi ac yn angerddol am hawliau LGBT+, er enghraifft, ac fel arweinydd plaid ryddfrydol mae’n rhywbeth fydd ar frig fy agenda drwy gydol fy nghyfnod fel arweinydd ein plaid, nid yn unig wrth amddiffyn y gyfraith ar briodasau cyfartal ond drwy ddweud fod yna feysydd y mae angen eu hymestyn.”

Mewn cyfweliad ar raglen Pienaar’s Politics ar Radio 5 Live, ychwanegodd fod angen diwygiadau etholiadol er mwyn cryfhau ei blaid.

Ymateb

Wrth ymateb i feirniadaeth Tim Farron o’r SNP, dywedodd yr Aelod Seneddol Drew Hendry fod ei “sylwadau twp” yn dangos pa mor bell yw’r blaid oddi wrth ddymuniadau Albanwyr.

“Dydy ei honiadau ddim yn agos o gwbl at y genedl wleidyddol, egnïol yw’r Alban ers y refferendwm.

“Mae ei sylwadau chwerthinllyd am yr Alban sydd wedi cael eu hailadrodd yn creu embaras i’w blaid ei hun.

“Maen nhw mor anghywir nes eu bod nhw’n tanlinellu pam y cafodd ei blaid ei gwrthod yn llwyr gan bobol yr Alban ym mis Mai, tra bod arolwg yr wythnos hon yn dangos y byddai gan yr SNP 60% o’r pleidleisiau etholaethol ar hyn o bryd wrth i bobol barhau i ymddiried ynom ni.”