Llywelyn Williams
Llywelyn Williams sydd yn edrych ar gyfrifon i100, SunNation a Huffington Post yn ystod yr etholiad cyffredinol …

Mae deufis wedi mynd heibio bellach ers yr etholiad cyffredinol ym mis Mai, a fyswn i ddim yn synnu petai rhai ohonoch chi wedi dechrau diflasu ar yr holl ymgyrch erbyn y diwedd.

Ond gan fod fy mhrosiect ymchwil Meistr i’n canolbwyntio ar etholiad cyffredinol 2015 dw i dal yn ei chanol hi, fel myfyriwr, o ran ailedrych ar hynt a helynt yr ymgyrchu a gohebu etholiadol ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ar gyfer y blog hwn rydw i wedi bod yn edrych ar gyfrifon Twitter rhai o’r papurau a gwefannau newyddion mwyaf poblogaidd a dylanwadol yn ystod ymgyrchu’r etholiad.

Y cyfrifon rydw i am eu dadansoddi yw i100 (sydd dan ofal y papur newydd yr ‘i’), #SunNation (cyfrif Twitter gwleidyddol ac etholiadol hiwmor ysgafn The Sun), ac yn olaf cyfrif Twitter ‘Huffington Politics’ (sydd o dan ymbarél Huffington Post, gwefan newyddion gweddol ifanc o’r Unol Daleithiau sy’n trydar newyddion cyson ac amrywiol tu hwnt o gwmpas y byd).

Wrth ddadansoddi cyfrifon y tair ffynhonnell newyddion, fe ddefnyddiais tweetchup.com i gasglu data o’r cyfrif.

@thei100


Trydariadau mwyaf poblogaidd i100 o ran sawl gwaith cawson nhw eu haildrydar
Sefydlwyd: Gorffennaf 2014

Slogan y cyfrif: ‘Seriously addictive news. From the @independent  and @theipaper’.

Dilynwyr: 87,500

Arddull y cyfrif – Yn fy marn i, mae arddull @thei100 yn fath o newyddiaduriaeth syml ond soffistigedig iawn, gyda hiwmor ffraeth ac ychydig bach yn goeglyd ar adegau, yn enwedig wrth dynnu coes  Nigel Farage ac amryw o wleidyddion doedden nhw ddim yn gweld llygad yn llygad â nhw!

Mae’r cyfrif wedi’i ddylunio, yn ôl ESI Media, i ‘rymuso’ darllenwyr trwy alluogi’r erthyglau, gyda’u ‘listicles’ (gair newydd arall i’r geiriadur?), i gael eu rhannu a’u clicio yn rhwydd iawn ar wefannau cymdeithasol.


i100 yn tynnu coes Nigel Farage
Ystyr ‘listicles’ yn ôl y Guardian yw ble mae erthyglau yn gosod rhestr, ddwedwn ni, o 1-10 o bwyntiau sy’n gysylltiedig â phrif thema’r erthygl, megis ‘Uchafbwyntiau/isafbwyntiau Nigel Farage fel Arweinydd UKIP’.

Yn bendant, mae’r ‘i’ wedi ceisio efelychu llwyddiant Buzzfeed trwy ddechrau creu ‘listicles’ neu ‘restr-erthyglau’ i ddenu pobl ifanc yn bennaf, a’r amryw rai sydd yn hoff o ddarllen darnau ysgafn a doniol o safon.

Dywedodd Golygydd Digidol yr ‘i’, Christian Broughton: “Roedden ni’n ymwybodol fod rhaid i ni greu rhywbeth gwahanol dros ben. Doedden ni methu creu fersiwn a oedd debyg i bapur newydd ar-lein.

“Ond mae gwerthoedd i100 yr un peth – newyddion o safon, mae’n gryno ac yn deall ei chynulleidfa. Mae’n rhoi rheolaeth i bobl. Rydyn ni eisiau i’r gynulleidfa gymryd rhan yn y gwasanaeth newydd hwn. Rydyn ni eisiau bod mor agored â phosib gyda’n newyddion.”

Tydan ni i gyd wedi mynd rhy brysur a blinedig i ddarllen erthyglau ‘broadsheet’ hirfaith y dyddiau yma!

@SunNation


Trydariadau mwyaf poblogaidd #SunNation o ran sawl gwaith cawson nhw eu haildrydar
Sefydlwyd: 2015

Slogan: ‘Politics without the boring bits!’

Dilynwyr: 6800

Arddull y cyfrif: Cyfrif dychan â hiwmor ysgafn wrth ddelio â gwleidyddiaeth Prydain sydd wrth wraidd y cyfrif ‘SunNation’.

Mae gan y cyfrif rinweddau tebyg iawn i i100 megis gwefan briodol ei hun, ac mae’r cyfrif hefyd wedi cymryd ychydig o syniadau, fel y gwnaeth i100, oddi wrth Buzzfeed, yn enwedig trwy nifer o gwisiau diddorol a digri.


Rhai o gwisiau #SunNation
Penderfynodd Dan Silver, dirprwy bennaeth Adran Gyhoeddi’r Sun, arbrofi gohebu gwleidyddol gyda hiwmor drwy gyhoeddi ychydig fisoedd cyn etholiad cyffredinol 2015. Bu Tim Gatt (golygydd y wefan) a James Manning (Pennaeth Cyfryngau Cymdeithasol The Sun) yn cymryd cyfrifoldeb dros y cyfrif eu hunain.

Mae’r cwisiau, wrth glicio ar un o amryw linciau sydd ar gyfrif Twitter #SunNation, yn rai amrywiol ynglŷn â gwleidyddiaeth Prydain, megis ‘How Nigel Farage are you’, ‘How Ed Milliband are you’ neu hyd yn oed, ‘How Plaid Cymru are you’.

Gallwch weld yma rhai cwestiynau o’r cwisiau boncyrs a grëwyd gan #SunNation.


Gêm bws Harriett Harman
Yn wir, dychan yw prif elfen y cyfrif, ac fe gafwyd tipyn o ddychan gwleidyddol yn sgil ‘Bws Pinc’ Harriett Harman. Er hynny, mae gan y cyfrif a’r wefan ei hun agwedd negyddol tuag at y Blaid Lafur fel sydd gan ei phapur newydd.

Mae yna gêm ar y wefan ble rydych yn gallu ceisio gwneud ‘parcio paralel’ gyda’r bws pinc, gafodd ei brynu er mwyn ceisio ymgyrchu i gael mwy o ferched i bleidleisio dros y Blaid Lafur.

@HuffPostUKPol

Sefydlwyd: 2011


Trydariadau mwyaf poblogaidd Huffington Post UK o ran sawl gwaith cawson nhw eu haildrydar
Dilynwyr: 30,000

Slogan: ‘The destination for U.K. news, blogs and coverage of politics, entertainment, style, world news, technology and comedy…’

Arddull y cyfrif: Cyfrif Twitter sydd yn deillio o’r wefan newyddion Huffington Post yw’r cyfrif hwn, ac mae’n canolbwyntio ar wleidyddiaeth y DU.

O’r edrychiad cyntaf, mae’n gyfrif mwy traddodiadol o’i gymharu â chyfrifon i100 a #SunNation. Serch hynny, mae’r cyfrif yn manteisio ar y dechneg o rannu linciau o straeon diddorol am wleidyddiaeth Prydain, yn ogystal â manteisio ar hashnodau poblogaidd oedd yn deillio o’r etholiad.


Enghraifft o listicle gan y Huffington Post, yn ogystal â'u hashnodau mwyaf poblogaidd
Yn ogystal, mae Huffington Post yn defnyddio’r un syniadau newyddiadurol modern o ohebu newyddion ac sydd i gael ar @i100 a Buzzfeed wrth gwrs, sef y defnydd cynyddol o fideos, vines a lluniau mewn rhestrau fel yr enwais uchod yn ‘listicles’.

Pa gyfrif oedd y gorau?

Mae’r tri chyfrif yn cynnig delwedd unigryw gan efelychu syniadau modern cyffredin megis y defnydd cynyddol o vines, ‘listicles’ a fideos yn eu newyddion.

Mae’n edrych yn debyg fod y tri chyfrif yn gweld gwerth cyfryngau cymdeithasol i rannu newyddion gwleidyddol yn ehangach o’i gymharu â’r blynyddoedd diwethaf.

Maen nhw’n cysylltu eu gwefannau newyddion yn agosach â’u cyfrifon Twitter, gan gredu efallai bod mwyafrif o’u cynulleidfa, neu fwyafrif o’r gynulleidfa ifanc af ‘tech savvy’ maen nhw’n ceisio’u denu, yn debygol iawn o ddarllen eu newyddion y dyddiau hyn ar Facebook neu Twitter yn hytrach nag ar y papurau newydd neu hyd yn oed ar wefannau newyddion efallai.

Y cyfrif mwyaf modern: @i100: Y cyntaf o’r cyfrifon o bosib a welodd botensial enfawr efelychu a chystadlu yn erbyn Buzzfeed. Yn sicr mae’r cyfrif yn ceisio denu’r rhai sydd ar eu apiau a’u ffonau symudol smart.

Mae’r ffordd o ohebu newyddion yn fwy modern hefyd, gan gyfeirio nôl at beth roedd golygydd ‘i’ yn ei ddweud, sef eu bod yn ceisio creu newyddion gwahanol, cryno  gan barhau â safon uchel y gohebu newyddiadurol.

Y cyfrif mwyaf digri: @#SunNation: Nid yw’r cyfrif hwn yn teimlo eu bod o ddifrif efallai wrth geisio adrodd newyddion gwleidyddol o safon, ond yn bendant maen nhw wedi ceisio creu math o newyddion llawn hiwmor.

Mae potensial gan y cyfrif hwn i ddenu cynulleidfa newydd, sydd ddim o reidrwydd efallai’n poeni llawer am wleidyddiaeth, ond fod y cyfrif a’r wefan o leiaf yn ceisio creu persbectif ychydig bach yn wahanol o wleidyddiaeth o ddydd i ddydd. ‘Banter’ gwleidyddol etholiadol yn hytrach na ‘Gohebu’ etholiadol fyddai’n fwy perthnasol i ddisgrifio’r cyfrif hwn dw i’n teimlo.

Y cyfrif mwyaf traddodiadol: @HuffPostUKPol: Dw i’n teimlo fod yna olwg tebyg i’r ffordd mae’r ‘i’ yn ceisio gohebu newyddion, ond eto roeddwn i dal yn gweld y cyfrif hwn yn rhy debyg i gyfrifon newyddion eraill.

Does dim byd yn bod â’r cyfrif Twitter hwn o gwbl, ond nid oes llawer o ddim byd unigryw chwaith i ddweud amdano a bod yn onest. Dim byd yn sefyll allan.